Manylion y penderfyniad

Saltney/Broughton Schools Network Review

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Ystyried y dewisiadau arfaethedig ar gyfer y rhwydwaith ysgolion yn ardal Saltney/Brychdyn cyn i’r Cabinet eu cymeradwyo.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mared Eastwood yr adroddiad, a oedd yn rhoi manylion yr opsiynau rhwydweithiau ysgol ar gyfer ardal Saltney/Brychdyn a chanlyniadau'r broses ymgysylltu cynnar.

 

            Dywedodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Lleoedd mewn Ysgolion, fod y cynigion wedi cael cefnogaeth eang gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a bod trafodaethau helaeth wedi'u cynnal hefyd gydag Aelodau Lleol ynghylch yr adolygiad penodol hwn.

 

            Wrth siarad am y cynigion, amlinellodd y Cynghorydd Dave Healey ei gefnogaeth a siaradodd am y cyfleoedd yn ymwneud â lleihau'r ôl troed carbon a’r datblygiad tuag at sero net. 

 

PENDERFYNWYD:

 

a)         Bod y Cabinet yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer moderneiddio ysgolion yn ardal Saltney a Brychdyn;

 

b)         Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo'r opsiwn a ffefrir, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad; a

 

c)         Bod y Cabinet yn cymeradwyo rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) gynnal ymgynghoriad ar gynigion statudol mewn perthynas â’r ddwy ysgol gynradd. Yn ogystal, yn rhoi awdurdod dirprwyedig i lunio amserlen ar gyfer y cynigion statudol hynny ar y cyd â’r Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant.

Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield

Dyddiad cyhoeddi: 30/09/2024

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2024 - Cabinet

  • Restricted enclosure  
  • Restricted enclosure  
  •