Manylion y penderfyniad
Housing Strategy Action Plan Performance Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Darparu diweddariad blynyddol ar y Strategaeth gyfredol.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu’r Cynllun Cyflawni Strategaeth Tai 2019 - 2024 gan ganolbwyntio’n benodol ar y flwyddyn ariannol 2023/24.
Roedd gan y Strategaeth Tai gynllun cyflawni a oedd yn gosod 3 blaenoriaeth strategol a gweithgaredd cysylltiol i gyflawni’r blaenoriaethu hynny:
- Blaenoriaeth 1: Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir.
- Blaenoriaeth 2: Darparu cefnogaeth i sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o
- gartref.
- Blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi.
Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) bod hwn yn adroddiad blynyddol a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Atodwyd y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r blaenoriaethau i’r adroddiad. Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai lle cafodd yr argymhellion eu cefnogi.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog bod darpariaeth y gwasanaeth tai statudol yn cael ei hariannu drwy Gronfa'r Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024 yn cael ei nodi; a
(b) Bod yr heriau a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu nodi:
· Alinio safonau a’r gyfradd ymyrryd ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro.
· Yr amserlen ddiweddaraf i adnewyddu’r Strategaeth Tai gyfredol
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/06/2024
Dogfennau Atodol: