Manylion y penderfyniad
Capital Works – Procurement of Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Envelope Works to Council owned properties (Roofing, Pointing, Rendering, Windows & Doors etc.)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Ceisio cefnogaeth i benodi dau gontractwr trwy Ddyfarniad Uniongyrchol drwy Fframwaith Procure Plus, i wneud gwaith ar gragen allanol gyfan 1,500 o adeiladau dros y pum mlynedd ariannol nesaf.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) adroddiad i geisio cymeradwyaeth gan y Pwyllgor, i benodi dau gontractwr: trwy Ddyfarniad Uniongyrchol drwy Fframwaith Procure Plus, i wneud gwaith ar gragen allanol gyfan 1,500 o adeiladau dros y pum mlynedd ariannol nesaf. Mae’r gwaith hwn yn parhau ag ail ran o welliannau cyfalaf sydd wedi’u cynllunio er mwyn sicrhau bod cartrefi’r Cyngor sy’n cael eu rhentu yn parhau i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a’r holl ofynion deddfwriaethol.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth gefndir a throsolwg o’r ymarfer tendro gyda Procure Plus a pherfformiad y contractwyr.
Fe soniodd y Cynghorydd Ted Palmer am y gwaith oedd wedi cael ei wneud gan y contractwyr. Dywedodd fod y gwaith wedi bod yn dda iawn a bod unrhyw broblemau wedi cael eu datrys yn gyflym.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd David Evans am waith oedd yn cael ei wneud ar eiddo oedd yn cyffwrdd ag eiddo preifat, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth fanylion am y broses ymgysylltu gyda pherchnogion eiddo preifat a phenodi syrfëwr trydydd parti yn annibynnol.
Cafodd yr argymhelliad fel yr amlinellir yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Cabinet ac Aelod Cabinet Tai i gymeradwyo’r Dyfarniad Uniongyrchol i’r ddau gontractwr, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, i ymgymryd â’r gwaith ar gragen allanol gyfan yr adeiladau drwy’r fframwaith Procure Plus.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 08/07/2024
Dyddiad y penderfyniad: 22/04/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/04/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai