Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Social & Health Care Overview & Scrutiny Committee.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith bresennol a’r Ôl-rhain Camau Gweithredu fel y nodir yn yr adroddiad i’w ystyried a chroesawyd unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill am y rhestr gofynion cyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd wedi cael ei ryddhau mis Mehefin diwethaf i gael ei ddosbarthu ymysg yr Aelodau fel eu bod nhw’n dod i fyny gyda syniadau cyn y cyfarfod cyllideb i geisio lleihau’r gyllideb heb orfod lleihau’r gwasanaethau. Cynghorodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y gofynion ar gyfer y gyllideb wedi newid yn sylweddol ers mis Mehefin diwethaf a bod yr adroddiad gan y Swyddog A151 yn cyflwyno’r sefyllfa ddiweddaraf. Eglurodd bod Gwasanaethau Cymdeithasol angen dod o hyd i arbedion ar gyfer y flwyddyn i ddod ac y byddai cynigion yn cael eu hegluro yn y gweithdai yr wythnos nesaf a fyddai’n rhoi amser i Aelodau wneud cynigion ychwanegol i’r cyfarfod arbennig ar 9 Chwefror. Ychwanegodd bod y gyllideb manwl yn cael ei rhannu’n rheolaidd ac yn parhau i gael ei rannu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bateman at yr ail eitem ar yr Ôl-rhain Camau Gweithredu yngl?n â gwybodaeth ar wasanaethau statudol ac anstatudol ac fe gadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r adroddiad sy’n cynnwys y wybodaeth yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod ar 9 Chwefror.
Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod ar 24 Mehefin 2024 yn trafod cais a wnaed gan y Cynghorydd Mackie yngl?n â’r sefyllfa gyda Chartrefi Gofal.
Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n ail-ofyn i Brif Weithredwr BIPBC am ddyddiad ar bryd y byddan nhw’n derbyn ymateb i’r cwestiynau a gyflwynwyd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r
Rhaglen Gwaith;
(b) Rhoi awdurdod
i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y
Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith rhwng cyfarfodydd, yn
ôl yr angen; ac
(c) Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 04/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: