Manylion y penderfyniad
Quarter 4 Treasury Management Update 2023/24
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Darparu diweddariad ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd Chwefror 2024.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y diweddariad chwarterol ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Chwefror 2024. Adroddwyd ar sefyllfa’r Cyngor yn ymwneud â buddsoddiad a benthyca hirdymor a thymor byr, ynghyd â diweddariad ar gyd-destun economaidd a’r rhagolygon o ran cyfraddau llog.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y rhagolwg benthyca ac ystyriaethau allweddol ar gyfer buddsoddiadau.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Glyn Banks am graff i gyd-fynd â’r daenlen benthyca hirdymor, cytunodd swyddogion i adolygu’r fformat ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Ted Palmer ac Andrew Parkhurst.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo diweddariad chwarterol Rheoli’r Trysorlys 2023/24.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 19/08/2024
Dyddiad y penderfyniad: 10/04/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/04/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: