Manylion y penderfyniad

Audit Wales Assurance and Risk Assessment Review Report 2021-22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

I grynhoi’r casgliadau i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o’r gwaith asesu risg a sicrwydd manwl a wnaed.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar adolygiad Archwilio Cymru o feysydd gwaith Sicrwydd ac Asesu Risg.  O ran goblygiadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cadarnhawyd bod trefniadau yn cael eu rhoi ar waith i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth, heb unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.  O ran cynlluniau lleihau carbon y Cyngor, dywedwyd bod gan y Cyngor weledigaeth glir a chefnogaeth strategol ar gyfer ei ddull o ddatgarboneiddio a sero net erbyn 2030, gydag un argymhelliad i gostio ei gynllun gweithredu’n llawn ac alinio â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at gostau amcangyfrifedig ac arbedion carbon o gamau gweithredu allweddol a ystyriwyd gan y Cabinet, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a'r Economi a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd.

 

Eglurodd Charles Rigby mai adolygiad cenedlaethol blynyddol oedd hwn a bod newidiadau mewn adnoddau o fewn Archwilio Cymru wedi effeithio ar amseroldeb yr adroddiad.   Cydnabu’r heriau carbon niwtral ar draws y sector cyhoeddus, fel yr amlygwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Sally Ellis ar heriau a adroddwyd yn flaenorol gyda gwasanaethau caffael, esboniodd Charles Rigby fod hwn yn adroddiad lefel uchel ac y byddai'r casgliad ar ddatblygu’r data gorau yn adlewyrchu'r materion hynny.

 

Pan holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am darged 2030, ailadroddodd y Prif Weithredwr ymrwymiadau carbon y Cyngor a’r angen am gyfrifoldeb ar y cyd i gwrdd â’r terfyn amser.  Siaradodd hefyd am rôl busnesau lleol ac eglurodd fod y Cyngor yn ymgysylltu â'r grwpiau hynny.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen ar gyfer Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon y byddai’r gofyniad i adolygu’r strategaeth yn 2024/25 yn galluogi i dueddiadau data gael eu dadansoddi i adlewyrchu ar yr uchelgeisiau o fewn yr amserlen ac i ganolbwyntio ar ddylanwad y Cyngor ar y gymuned ehangach.

 

Soniodd y Cynghorydd Glyn Banks am weithgareddau gwrthbwyso carbon a'r defnydd o gerbydau hydrogen.

 

Yn unol â chais Brian Harvey, adroddodd y Rheolwr Rhaglen adborth cadarnhaol o weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf i geisio barn, hysbysu ac addysgu.  Byddai cyfle pellach i ymgynghori â'r cyhoedd ar yr adolygiad o'r Strategaeth Newid Hinsawdd.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cael ei sicrhau gan gynnwys a sylwadau adroddiad Adolygiad Sicrwydd ac Asesu Risg Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill

Dyddiad cyhoeddi: 19/08/2024

Dyddiad y penderfyniad: 10/04/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/04/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Atodol: