Manylion y penderfyniad

Audit Wales report: Homelessness services - Flintshire County Council

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Rhannu canfyddiadau adolygiad Archwilio Cymru ar Atal Digartrefedd yng Nghyngor Sir y Fflint gyda’r Pwyllgor a cheisio cymeradwyaeth i ddarparu ymateb sefydliadol ffurfiol i Archwilio Cymru.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai ac Atal adroddiad ar yr adolygiad o Wasanaethau Digartrefedd a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru.  Ar ôl derbyn yr adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2024, roedd y canfyddiadau ac ymateb y sefydliad i'r tri argymhelliad wedi'u hadolygu a'u cefnogi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai a'r Cabinet.

 

Canfu adroddiad Archwilio Cymru fod y Cyngor yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel a bod ganddo ddealltwriaeth dda o bwysau a rhagamcanion ar gyfer y dyfodol, gan gydnabod y risgiau o ran cynaliadwyedd ariannol wrth ddarparu gwasanaethau nad oeddent yn unigryw i Sir y Fflint.   Aeth y swyddog ymlaen i roi diweddariad ar gynnydd y tri argymhelliad.

 

Croesawodd Duncan Mackenzie o Archwilio Cymru y gwaith a wnaed gan y gwasanaeth a’r prosesau a roddwyd ar waith, gan gydnabod yr heriau ariannol hirdymor ar y mater cymhleth hwn sy’n effeithio ar bob cyngor.

 

Disgrifiodd Sally Ellis hwn fel adroddiad cadarnhaol a oedd yn adlewyrchu'n dda ar y gwasanaethau digartrefedd yn Sir y Fflint.   Pan ofynnwyd iddo ynghylch cwblhau'r camau gweithredu yn amserol, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth sicrwydd ynghylch gweithredu Argymhellion 2 a 3 a dywedodd y byddai Argymhelliad 1 angen cymorth ehangach gan gydweithwyr ar draws y Cyngor i gwrdd â'r terfyn amser.

 

Wrth gytuno â’r pryderon ynghylch anghynaladwyedd y sefyllfa ariannol a amlygwyd yn yr adroddiad, gwnaeth y Cynghorydd Glyn Banks sylw ar effaith penderfyniadau tai cenedlaethol.   Ar un o'r canfyddiadau, esboniodd Duncan Mackenzie y gallai'r gwasanaeth fod yn fwy rhagweithiol wrth ymdrin ag Aelodau etholedig mewnol ac allanol er mwyn helpu i reoli disgwyliadau a galwadau ar y gwasanaeth.

 

Gofynnodd Brian Harvey am ddiweddariad ar faterion TG a adroddwyd yn flaenorol a dywedwyd wrtho fod mwy o gymorth wedi'i ddarparu i ymdopi â galwadau ar y gwasanaeth.   Nodwyd hefyd bod canfyddiadau'r archwiliad penodol hwn o bosibl yn ystyried y system TG ar gyfer digartrefedd a chymorth tai fel arfer gorau.

 

Wrth ddiolch i'r Rheolwr Gwasanaeth a phawb a fu'n ymwneud â'r adroddiad cadarnhaol, gwnaeth y Cynghorydd Ian Roberts sylw ar yr angen am drosolwg cenedlaethol o'r heriau a amlygwyd.   Darparodd Charles Rigby esboniad ar drefniadau adrodd i Lywodraeth Cymru (LlC), megis yr astudiaeth genedlaethol sydd ar ddod gan Archwilio Cymru ar ddigartrefedd a fyddai’n helpu i amlygu materion cyffredin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am ymateb cyfunol posibl i LlC ar y pwysau ariannol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, er bod mwy o arian ar gyfer gwaith atal a gwasanaethau anstatudol, roedd y prif bwysau yn ymwneud ag arian y Cyngor ar gyfer swyddi staff a chostau llety brys yn uwch na'r dyraniad cyllid grant.   Aeth ymlaen i gyfeirio at yr ymrwymiad a roddwyd gan LlC i roi terfyn ar ddigartrefedd a rhoddodd sicrwydd bod cynrychiolaethau yn parhau i gael eu gwneud ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y gwasanaeth yn cael effaith gadarnhaol ar ddigartrefedd, fodd bynnag roedd y sefyllfa anghynaladwy yn creu pwysau ar bob cyngor, fel y cydnabuwyd gan Archwilio Cymru.   Ar awgrym y Cynghorydd Parkhurst, dywedodd, er bod y cynrychiolaethau’n parhau, y byddai’n ysgrifennu at y Gweinidog i atgyfnerthu pryderon y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Gwasanaeth a'i dîm am yr adroddiad cadarnhaol a'r cyfraniadau gan gydweithwyr yn Archwilio Cymru.   Croesawyd yr adborth cadarnhaol gan y Rheolwr Gwasanaeth a dalodd deyrnged i'r timau dan sylw a chydweithwyr Archwilio Cymru a oedd wedi gweithio ar yr adolygiad.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Glyn Banks a Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi adroddiad Archwilio Cymru ar Wasanaethau Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint; a

 

(b)       Nodi ymatebion y Cyngor i argymhellion Archwilio Cymru at ddibenion monitro a goruchwylio yn y dyfodol.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 19/08/2024

Dyddiad y penderfyniad: 10/04/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/04/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Atodol: