Manylion y penderfyniad
North Wales Regional Partnership Board (NWRPB) Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Members note the work and progress undertaken
in 2022/23 on the work areas being taken forward through the North
Wales Regional Partnership Board.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu adroddiad yn egluro bod dyletswydd ar bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyflwyno eu hadroddid blynyddol i’w Pwyllgor Craffu ac y byddai unrhyw adborth a geir heddiw’n cael ei anfon i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar eu rhan. Dywedodd bod hyn yn rhan o’r gofyniad o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg i bob asiantaeth partner a Llywodraeth Cymru o waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ei weithgaredd yn ystod y flwyddyn a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dywedodd bod gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei rôl ei hun o ran rhannu cyfeiriad clir ar gyfer datblygiad gwasanaeth o safbwynt integreiddio iechyd a gofal chymdeithasol er mwyn sicrhau lles eraill.
Cyfeiriodd at bwyntiau allweddol yn adran 3 o’r adroddiad llawn a oedd wedi’i atodi i’r papurau
· Cod Ymarfer Awtistiaeth
· Cyfalaf
· Rhaglen Plant a Phobl Ifanc
· Rheolwr
· Llwybr Safonau Gofal Dementia (Cymru Gyfan)
· Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu
· Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad
· Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
· Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.
· Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant
· Rhaglen Trawsnewid Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
· Gweithlu
Gofynnodd y Cynghorydd Healey am faint yr oedd yn rhaid i blant aros cyn gweld ymgynghorydd yngl?n â’u hiechyd meddwl, a dywedodd hefyd ei bod yn bryderus a fyddai plant sy’n cael prydau ysgol yn cael pryd o fwyd pe baent yn cael eu hanfon adref, e.e. oherwydd llifogydd. Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu nad oedd y data wrth law ganddi ynghylch amseroedd aros am wasanaethau iechyd plant a phobl ifanc ond y byddai’n gwneud ymholiadau. Eglurodd hefyd bod darpariaeth prydau ysgol am ddim yn rhan o’r gwaith sy’n cael ei fwydo i mewn i’r adroddiad sefydlogrwydd y farchnad a bod asesiad o anghenion y boblogaeth yn ystyried niferoedd prydau ysgol am ddim hefyd, sydd yn helpu gyda chynllunio. Dywedodd bob pob Asiantaeth Partner yn gyfrifol am ei waith ei hun yn ogystal â gwaith ar y cyd a bod Sir y Fflint wedi gweithio’n galed i gefnogi unigolion sy’n dibynnu’n drwm ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. Dywedodd er bod nifer fawr o ysgolion wedi cau’n ddiweddar oherwydd llifogydd, y cawsant eu cau’n fwriadol ar ôl 1pm fel bod y plant yn cael cinio.
Awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y dylid holi BIPBC y y tro nesaf y bydd cyfarfod ynghylch amseroedd aros i weld ymgynghorydd i blant ag anghenion iechyd meddwl. Cyfeiriodd hefyd at adran 3.12 yr adroddiad yngl?n â’r rhaglen trawsnewid iechyd meddwl a chanmolodd y canolbwyntiau cymunedol a fu’n llwyddiannus mewn helpu pobl i gefnogi eu hunain. Roedd hefyd eisiau gwneud y pwyllgor y ymwybodol fod Sir y Fflint yn arwain ar werth cymdeithasol aa bod hyn yn dal i fod yn rhan allweddol o ymdriniaeth Sir y Fflint. Dywedodd mai’r Gr?p Rhanbarthol y cyfeirir ato yn yr adroddiad yw’r unig un yng Nghymru sydd wedi bod ar waith ers tua 3 - 4 blynedd erbyn hyn ac mai Cyngor Sir y Fflint oedd yn ei gadeirio
Gofynnodd y Cynghorydd Thew os yw cost BPRhGC yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y 6 Sir a faint mae Sir y Fflint yn ei dalu Dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu nad yw pob taliad yr un fath a’u bod yn seiliedig ar y fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol, felly roedd y cyfraniadau’n amrywio ond roedd yna hefyd gyfraniadau gan asiantaethau partner allweddol eraill, nid dim ond y 6 awdurdod lleol. Dywedodd bod Sir y Fflint fel arfer yn talu £123,000 y flwyddyn ond y cafwyd gostyngiad o £50,000 ac mai’r taliad yn 23/34 oedd £73,000, ond y bydd y tâl o bosibl yn mynd yn ôl i fyny i £123,000. Dywedodd bod cyfeiriad at hyn yn y papurau ar effeithlonrwydd cyllidebol.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn un o ofynion Llywodraeth Cymru a’i fod hefyd yn fuddsoddiad o ran amser ac adnoddau swyddogion, gan fod llawer o swyddogion yn eistedd ar lawer o gyfarfodydd.
Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cynghorydd Thew, ymddiheurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) os oedd wedi ei chamarwain gan egluro fod pob rhanbarth wedi bod â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ers 4 - 5 blynedd a’r hyn yr oedd wedi’i ddweud oedd nad oes gan bob ardal Fforwm Cymdeithasol gweithredol, sydd yn wahanol, ond bod disgwyl yn awr i bob ardal yng Nghymru fod ag un â’u bod yn dal i fyny efo Sir y Fflint. Awgrymodd hefyd y dylai ei sylwadau ynghylch fformiwla Barnett sy’n cosbi Sir y Fflint ac i bob pwrpas yn cynyddu Treth y Cyngor yn cael effaith ar breswylwyr Sir y Fflint gan fod yn rhaid iddynt deithio i ysbytai y tu allan i’r sir, sy’n ei gwneud yn anodd i rai fynd i apwyntiadau ac ymweld â chleifion, fod yn gwestiwn arall y dylid ei ofyn i BIPBC pan maen nhw’n cyfarfod nesaf.
Cafodd yr argymhelliad cyntaf ei ddiwygio ar gais y Cadeirydd a chafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healy a’i eilio gan y Cynghorydd Mel Buckley. Cynigiwyd yr ail argymhelliad gan y Cynghorydd Gladys Healey a’i eilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a)
Bod yr Aelodau’n nodi
cymhlethdod, ehangder a dyfnder y gwaith y mae'n rhaid i Fyrddau
Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud; a
(b) Bod yr Aelodau’n nodi'r cynnydd yn 2022/23 ar y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Awdur yr adroddiad: Jane Davies
Dyddiad cyhoeddi: 05/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 26/10/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: