Manylion y penderfyniad
Responsible Individuals Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the performance of the in-house provider services in respect of the Regulation for Inspection of Social Care Act (RISCA).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn disgrifio rôl yr Unigolyn Cyfrifol, gofynion y rôl a sut yr oedd gwasanaethau rheoledig mewnol wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf.
Roedd yr Unigolyn Cyfrifol yn ofyniad statudol ar gyfer yr holl sefydliadau yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau gofal. Ynghyd ag Unigolyn Cyfrifol yn ymweld â’r holl wasanaethau o leiaf 4 gwaith y flwyddyn, mae’n rhaid iddynt gasglu tystiolaeth i fesur gwasanaethau yn erbyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016). Roedd y gwasanaethau dan sylw wedi’u nodi yn yr adroddiad.
Roedd y dull o gasglu tystiolaeth yn cynnwys archwilio ffeiliau, ymweliadau iechyd a diogelwch, cadw cofnodion, diogelu, cyfarfodydd tîm ac ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd. Roedd hefyd yn defnyddio arolygon gan Arolygiaeth Gofal Cymru.I grynhoi roedd yr Unigolyn Cyfrifol yn adrodd lefel uchel o hyder ym mhob maes o’r gwasanaeth. Roedd safon y gofal yn uchel ym mhob man ac roedd y staff wedi’u hyfforddi i safon uchel. Roedd nifer o feysydd sydd angen eu hystyried mewn perthynas â risgiau ar gyfer gwasanaethau darparwyr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle y gofynnodd yr Aelodau am gael ailddechrau ymweliadau rota.
PENDERFYNWYD:
Nodi a chymeradwyo’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Janet Bellis
Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/03/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 21/03/2024
Dogfennau Atodol: