Manylion y penderfyniad
Audit Wales report: Homelessness services – Flintshire County Council
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To share with the Committee the findings of
the Audit Wales review into Homeless Prevention at Flintshire
Council and seek approval to provide formal Organisational Response
to Audit Wales.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad a oedd yn amlinellu proses yr adolygiad gan Archwilio Cymru ac yn rhannu’r canfyddiadau yn eu hargymhellion ar gyfer y Cyngor yngl?n â’r dull lleol ar gyfer digartrefedd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu ymateb y Cyngor i’r argymhellion hynny.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal broses adolygu Archwilio Cymru a oedd yn cynnwys adolygu dogfennau, cyfweliadau gydag uwch swyddogion allweddol ac Aelodau Etholedig, a grwpiau ffocws gyda staff rheng flaen sy’n uniongyrchol gysylltiedig â darparu gwasanaethau digartrefedd. Roedd canfyddiadau cyffredinol yr arolwg fel a ganlyn: roedd y Cyngor yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, ond nid oedd hyn yn gynaliadwy gyda’r lefel bresennol o gyllid.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal y tri argymhelliad ar gyfer y Cyngor yn dilyn yr adolygiad o Wasanaethau Digartrefedd yn Sir y Fflint, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd ymateb y Cyngor i adroddiad Archwilio Cymru a’r tri argymhelliad ynghlwm wrth Atodiad 2 yr adroddiad.
Canmolodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio yr adroddiad cadarnhaol a dderbyniwyd er gwaethaf yr amgylchedd heriol presennol.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin swyddogion ar adroddiad cadarnhaol. Soniodd am y diffyg eiddo ar gael i letya pobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref ond dywedodd bod y Tîm Gwasanaethau Digartrefedd yn gwneud gwaith ardderchog o ystyried y cyfyngiadau yr oeddent yn eu hwynebu.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi adroddiad Archwilio Cymru ar Wasanaethau Digartrefedd Cyngor Sir y Fflint; a
(b) Cefnogi’r ymatebion awgrymedig i argymhellion Archwilio Cymru.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 30/07/2024
Dyddiad y penderfyniad: 06/03/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: