Manylion y penderfyniad

Capital Programme Monitoring 2023/24 (Month 9)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To present the Month 9 Capital Programme information for 2023/24.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 ers ei gosod ym mis Ionawr 2023 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2023), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.

 

Bu gostyngiad net o £1.803 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:

 

·         Lleihad yng nghyllideb net y rhaglen o (£0.477m) (Gweler Tabl 2 - Cronfa’r Cyngor);

·         Swm i’w ddwyn ymlaen i 2024/25 wedi’i gymeradwyo ym Mis 6 o (£1.151 miliwn)

·         Arbedion a nodwyd ym Mis 9 (£0.175 miliwn – Cronfa’r Cyngor)

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £43.441 miliwn (Gweler Tabl 3).

 

Roedd derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn nhrydydd chwarter 2023/24 ynghyd ag arbedion a nodwyd yn gyfanswm o £0.316 miliwn.   Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £2.312 miliwn (o warged cyllido Mis 6 o £1.996 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2025/26, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau cyllid eraill.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol; a

 

(b)       Chymeradwyo'r addasiadau cario ymlaen.

Awdur yr adroddiad: Deryn Ridgway

Dyddiad cyhoeddi: 19/09/2024

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 29/02/2024

Dogfennau Atodol: