Manylion y penderfyniad

Council Plan 2023-24 Mid-Year Performance Reporting

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities and performance levels identified in the Council Plan.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad canol blwyddyn ar berfformiad gan ddweud bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i’r pwyllgor  ar gynnydd blaenoriaethau’r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023/24.  Roedd hwn yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar feysydd nad oedd yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd.  Roedd pwynt 1.05 yn yr adroddiad yn datgan nad oedd unrhyw weithgareddau neu ddangosyddion perfformiad a oedd yn dangos statws COG coch ar gyfer y portffolio.   Roedd llawer o waith dal yn cael ei wneud o ran cyflawni Blaenoriaethau Cynllun y Cyngor.

           

Yn dilyn sawl cwestiwn gan y Cynghorydd Mackie, darparodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ymatebion manwl i gwestiynau mewn perthynas â lefelau presenoldeb a’r Gwasanaeth Lles Addysg, plant a oedd yn cael trafferth ailymgysylltu â’r ysgol ar ôl y pandemig, penodi Gweithwyr Ymgysylltu a mabwysiadu’r Strategaeth Ddigidol mewn ysgolion.

 

            Yr amcan cyffredinol oedd codi lefelau presenoldeb ac roedd y Prif Swyddog yn falch iawn o allu dweud bod lefelau presenoldeb yn gwella, a bod yr awdurdod yn y pedwerydd safle drwy Gymru ar hyn o bryd.  Cadarnhawyd bod y sylw a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â pha gamau gweithredu oedd eu hangen a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i barhau i wella lefelau presenoldeb.  Rhoddwyd gwybodaeth am ddatblygu prosesau gwell a mwy effeithiol mewn ysgolion gan sicrhau bod y Gwasanaeth Lles Addysg yn defnyddio’r data hwnnw i dargedu eu hymyriadau’n fwy effeithiol mewn ysgolion. 

 

            Eglurwyd bod y defnydd o’r Grant Ysgolion Bro a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi gweithwyr ymgysylltu, a oedd yn gweithio gydag ysgolion a theuluoedd, i fynd i’r afael â’r materion craidd a oedd yn arwain at bobl ifanc yn peidio â mynychu’r ysgol neu’n cael trafferth cadw eu lle.  Roedd hwn yn gam i gyflawni’r amcan cyffredinol o geisio lleihau gwaharddiadau. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ted Palmer yngl?n â phresenoldeb ysgol o ganlyniad i’r Pandemig, dywedodd y Prif Swyddog fod hwn yn fater cenedlaethol a bod y Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol wedi cael ei greu gan y Gweinidog i fynd i’r afael â hyn.  Rhoddwyd amlinelliad o’r partneriaid sy’n aelod o’r Tasglu hwn a mynychodd y Prif Swyddog y cyfarfod cyntaf yr wythnos cynt.  Cytunodd y byddai’n dosbarthu dau adroddiad a baratowyd gan riant-elusennau ac a gyflwynwyd i’r cyfarfod hwnnw, ac fe dynnodd sylw at y newid yn agwedd y disgyblion a’r rhieni tuag at bresenoldeb.  Esboniwyd bod yn rhaid i’r cwricwlwm fod yn briodol, yn gyffrous ac yn ddifyr er mwyn i blant fynychu’r ysgol.  Eglurwyd sut yr oedd y cwricwlwm newydd yn canolbwyntio ar yr agweddau hyn.

 

            Canmolodd y Cynghorydd Carolyn Preece waith y Swyddogion ar yr adroddiad a oedd yn dangos nad oedd unrhyw statws Coch a dywedodd bod y targedau perfformiad ar gyfer pob maes yn dangos bod statws Oren a Gwyrdd yn gyrraeddadwy. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at lefelau presenoldeb a gofynnodd a fyddai lefelau addysgu gartref yn cynyddu a gofynnodd a fyddai’n bosib i’r Swyddog Addysgu Gartref fynychu cyfarfod y Pwyllgor i roi diweddariad ar gynnydd.

 

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog eu bod, ar ôl y pandemig, wedi gweld cynnydd o ran nifer y rhieni a oedd yn dewis addysgu eu plant gartref.   Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor y llynedd mewn perthynas â data addysg yn y cartref a sut yr oedd y Gwasanaeth Lles Addysg yn ymgymryd â’i swyddogaeth statudol i fonitro’r plant hyn o ran yr addysg a oedd yn cael ei darparu.  Eglurwyd bod y portffolio yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol o ran monitro’r gofrestr gydag uwch-swyddog tîm yn aelod o’r Gr?p Cenedlaethol ar gyfer Addysg Ddewisol yn y Cartref.  Eglurodd yr Hwylusydd bod adroddiad ar Bresenoldeb a Gwahardd wedi’i drefnu ar gyfer y cyfarfod ym mis Mai ac y byddai gwahoddiad i fynychu yn cael ei anfon i’r Swyddog Addysgu yn y Cartref.

 

Cynigiwyd argymhelliad ychwanegol fel a ganlyn:-

 

  • Bod diolchiadau’r Pwyllgor yn cael eu mynegi i’r holl staff i ddiolch iddynt am eu gwaith caled i gyflawni’r targedau blaenoriaeth allweddol yn erbyn mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac yn cynnwys yr argymhelliad ychwanegol a nodwyd uchod, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.  

             

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau oedd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2023/24;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24;

 

(c)        Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni; a

 

(d)       Bod diolchiadau’r Pwyllgor yn cael eu mynegi i’r holl staff i ddiolch iddynt am eu gwaith caled i gyflawni’r targedau blaenoriaeth allweddol yn erbyn mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 07/05/2024

Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: