Manylion y penderfyniad
Revision of Post 16 Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To outline how the new national commission was
developing.
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Ôl-16 ac Oedolion bod dau bwynt yr oedd yn dymuno tynnu sylw atynt. Y cyntaf o’r pwyntiau hynny oedd bod y dyddiad gweithredu ar gyfer y Comisiwn newydd wedi newid o 1 Ebrill i 1 Awst 2024. Roedd hyn yn dangos y newidiadau digynsail a oedd yn mynd rhagddynt o fewn y ddarpariaeth Ôl-16 a oedd yn effeithio ar bob sector a phob darparwr hyd at addysg uwch. Yn ail, roedd yn dymuno sicrhau’r aelodau bod y Cyngor yn rhan fawr o hysbysu a dylanwadu ar y datganiad o egwyddorion yn y Comisiwn Newydd a’i bod yn aelod o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Cymru a oedd yn cynnal sesiynau briffio misol gyda Llywodraeth Cymru a Swyddogion yn benodol o ran Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Roedd y portffolio hefyd wedi’i gynrychioli ar y Gr?p Rhanbarthol 14 i 19 a oedd yn cyfarfod yn genedlaethol ac yn edrych yn benodol ar ariannu ar gyfer darpariaeth Ôl-16 a’r newidiadau a oedd yn cael eu cyflwyno o dan y cynigion newydd. Roedd y wybodaeth hon yn cael ei hadrodd yn ôl i’r chwe sir yn y Gogledd. Roedd Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, yn aelod o’r Bwrdd Sgiliau Rhanbarthol lle’r oedd prentisiaethau’n cael eu trafod gyda’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn chwarae rhan. O ran chweched dosbarth ysgolion, adroddwyd bod gwaith yn parhau gyda GwE i alluogi cyfleoedd i Benaethiaid ysgolion gyda chweched dosbarth gyfarfod Prif Weithredwr newydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i alluogi ysgolion i ddylanwadu’r datganiad o flaenoriaethau wrth symud ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Preece y gallai hyn fod yn welliant aruthrol gyda phawb yn gweithio fel un. Roedd wedi edrych ar aelodaeth y Comisiwn a oedd yn cynnwys athrawon proffesiynol lefel uchel a fyddai’n arwain yn y maes hwn. Roedd yn teimlo y byddai hyn yn dod â phawb ynghyd ac yn darparu llif drwy’r broses addysg ac y byddai hyn yn gam cadarnhaol ymlaen. Roedd yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiadau ar hyn yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Carolyn Preece a’i eilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd o ran gwaith y Portffolio Addysg ac Ieuenctid wrth gefnogi ysgolion gyda darpariaeth chweched dosbarth i allu bodloni gofyniad y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd.
Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield
Dyddiad cyhoeddi: 07/05/2024
Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: