Manylion y penderfyniad
Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the developments of the NEWA Archive project.
Penderfyniadau:
Roedd y Cynghorydd Roberts wedi cyflwyno’r adroddiad ac egluro er mwyn cynyddu effaith y gwasanaethau archif yn ein cymunedau ac ymestyn eu cyrhaeddiad ar draws Sir y Fflint a Sir Ddinbych a mynd i’r afael â phrif ddiffygion yn yr adeiladau archif presennol ym Mhenarlâg a Rhuthun, roedd Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn rhannu uchelgais i adeiladu cyfleuster archif o’r radd flaenaf, newydd ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru ar gampws Neuadd y Sir, ger Theatr Clwyd.
Byddai’r cyfleuster yn dod â chasgliadau Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd mewn un lleoliad. Byddai’r adeilad newydd hefyd yn gweithredu fel canolbwynt mewn model o weithredu trwy bwynt canolog, a fyddai’n darparu mynediad digidol i’r deunyddiau archif drwy bwyntiau mynediad mewn llyfrgelloedd ac adeiladau cyhoeddus eraill i ehangu cyfranogiad ar draws Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod AGDdC, gyda chefnogaeth y ddau Gyngor, wedi cyflwyno cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Chwefror 2021 ac roedd wedi colli allan o fewn trwch blewyn o dderbyn cyllid. Nid oedd yna unrhyw adborth negyddol ar gynnwys ac ansawdd y cais, ac roedd cais newydd wedi’i annog. Roedd y cais am grant wedi cael ei gyflwyno ac erbyn Mawrth 2024 byddai’r Cyngor yn gwybod pa un a fyddai wedi derbyn arian grant ai peidio.
Roedd symud i un adeilad yn galluogi AGDdC i gyfuno a gwneud y defnydd gorau o’i
adnoddau, yn diogelu’r gwasanaethau archif yn y ddau Gyngor ac yn galluogi’r Cyngor i gyflawni cynllun gweithgaredd cyffrous a fyddai’n cyflwyno archifau i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, gan wneud cyfraniad cadarnhaol i les ac addysg ein preswylwyr.
PENDERFYNWYD:
(a) Cyflwyno cais am grant pellach i NLHF Cymru am £7.336m gan Wasanaeth Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC) ar 15 Tachwedd 2023 i gael ei nodi;
(b) Bod canlyniad y cais am grant a fyddai’n hysbys erbyn diwedd Mawrth 2024 yn cael ei nodi ac os byddai’r cais a’r prosiect yn llwyddiannus, yna bydd y model darparu gwasanaeth yn gwbl weithredol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2027-28; a
(c) Bod yr heriau a wynebir gan y prosiect ers 2021 a’r datblygiadau parhaus, gan gynnwys effaith costau posibl y prosiect yn sgil pwysau chwyddiant yn amodau’r farchnad bresennol.
Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 16/01/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/01/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/01/2024
Dogfennau Atodol:
- Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project PDF 148 KB
- Enc. 1 for Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project PDF 163 KB
- Enc. 2 for Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project PDF 375 KB
- Enc. 3 for Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project PDF 57 KB
- Enc. 4 for Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project PDF 72 KB
- Enc. 5 for Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project PDF 64 KB
- Enc. 6 for Progress on the North East Wales Archive (NEWA) Project PDF 42 KB