Manylion y penderfyniad
Draft Strategic Equality Plan 2024-28
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To present the draft Strategic Equality Plan
2024-28 for approval prior to formal consultation.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol, Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, yr adroddiad a oedd yn cyflwyno amcanion cydraddoldeb drafft y Cyngor a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 i’w cymeradwyo cyn ymgynghoriad ffurfiol.
Dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, yr oedd yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus datganoledig yng Nghymru
gyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol bob pedair blynedd.
Rhaid ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig wrth
osod amcanion cydraddoldeb a pharatoi ac adolygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Nod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol oedd lleihau anghydraddoldebau a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl â nodweddion gwarchodedig.
Rhaid cwblhau’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2024-28 a’i gyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.
Yr amcanion cydraddoldeb arfaethedig ar gyfer 2024-28 oedd:
· Gwella canlyniadau iechyd, lles a gofal cymdeithasol gan gynnwys canlyniadau i bobl h?n a phobl anabl
· Lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng grwpiau gwarchodedig a gweithredu strategaethau i wella lles
· Sicrhau cyflog cyfartal yn y gweithle drwy gael strategaethau cyflog a graddio teg, agored a thryloyw ar waith
· Gwella diogelwch personol ar gyfer pob gr?p gwarchodedig
· Gwella mynediad at wasanaethau a gwneud penderfyniadau ar gyfer pob gr?p gwarchodedig
· Gwella safonau byw pobl â gwahanol nodweddion gwarchodedig
· Lleihau effaith tlodi a chynnwys dyletswydd economaidd-gymdeithasol yn y sefydliad
Byddai ymgynghoriad yn dechrau ym mis Ionawr am gyfnod o chwe wythnos ac ar ôl hynny byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a'r Cabinet.
Pan gafodd ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, nodwyd bod y cyfeiriad e-bost yn y ddogfen yn anghywir. Byddai hynny’n cael ei gywiro cyn i’r ymgynghoriad ddechrau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 yn cael ei gymeradwyo cyn ymgynghori’n ehangach â budd-ddeiliaid, aelodau’r cyhoedd, a gweithwyr; a
(b) Bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft 2024-28 yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i'w ystyried a'i adolygu.
Awdur yr adroddiad: Rebecca Alfonso
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/01/2024
Dogfennau Atodol: