Manylion y penderfyniad
Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
The purpose of this report is to present for consideration the draft Housing Revenue Account (HRA) 30-year Financial Business Plan and the proposed HRA Budget for 2024/25.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad oedd yn cyflwyno’r Cynllun Busnes Ariannol 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) drafft a’r Gyllideb CRT arfaethedig ar gyfer 2024/25.
Roedd y cyd-destun strategol ar gyfer gosod cyllideb CRT eleni yn cynnwys y canlynol:
· Sicrhau bod fforddiadwyedd i’n tenantiaid yn greiddiol i’n hystyriaethau
· Ymdrech barhaus i sicrhau bod holl gostau gwasanaeth yn effeithlon ac y gellir cyflawni gwerth am arian.
· Sicrhau bod strategaeth rheoli'r trysorlys yn parhau i fodloni gofynion benthyca newydd a pharhaus y Cyfrif Refeniw Tai
· Pennu cyllideb gytbwys gydag o leiaf 3% o refeniw dros ben dros wariant
· Gwneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau’r benthyca sydd ei angen er mwyn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru
· Darparu tai Cyngor newydd
· Ymdrech barhaus i sicrhau bod cartrefi yn effeithlon o ran ynni ac yn archwilio datgarboneiddio
· Darpariaeth o gyfalaf parhaus digonol i gynnal lefelau Safon Ansawdd Tai Cymru.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai a'r adborth a gafwyd oedd y dylid rhewi'r ffi gwasanaeth ar gyfer erialau a adlewyrchwyd yn adroddiad y Cabinet ac argymhelliad (d), ac y dylai cronfa galedi gael ei sefydlu a adlewyrchwyd yn argymhelliad (e) yn yr adroddiad. Ychwanegodd mai cap rhent Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer tai cymdeithasol oedd 6.7%, ac yr oedd cynnydd arfaethedig Sir y Fflint yn 6.5%. Roedd y cynnydd yn rhent garejis hefyd yn is na chap LlC.
Mynegodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr angen i ganolbwyntio ar fforddiadwyedd. Roedd Safon Ansawdd Tai Cymru 2 newydd gael ei chyhoeddi a oedd yn cynnig lleihau allyriadau carbon o dai cymdeithasol ac wrth wneud hynny, cyfrannu at darged Cymru o Garbon Sero Net. Nid oedd cyllid gan LlC i gefnogi hynny felly yr oedd angen i'r Cyngor sicrhau y gallai'r CRT dalu am y gwaith hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Ystyried cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25;
(b) Cymeradwyo'r isafswm cynnydd rhent arfaethedig o 6.5%;
(c) Cymeradwyo'r cynnydd o 6.5% yn rhent garejis;
(d) Cymeradwyo'r cynnydd o ran taliadau gwasanaeth i adennill costau llawn ac eithrio ffioedd ar gyfer erialau a fydd yn cael eu rhewi hyd nes y bydd contract newydd yn cael ei drafod;
(e) Y dylid ychwanegu at y gronfa caledi i denantiaid hyd at gap o £0.350 miliwn o unrhyw arian dros ben sydd wrth gefn a gynhyrchir yn ystod y flwyddyn, os oes angen; a
(f) Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25.
Awdur yr adroddiad: Rachael Corbelli
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/01/2024
Dogfennau Atodol: