Manylion y penderfyniad

Capital Programme 2024/25 – 2026/27

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Capital Programme 2024/25 – 2026/27 for approval

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan egluro bod y Rhaglen Gyfalaf yn cwmpasu buddsoddiadau’r Cyngor ynghlwm ag asedau a hefyd yn ystyried y sefyllfa o ran y gyllideb refeniw.

 

Yna, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar y sleidiau canlynol:-

 

  • Rhaglen Gyfalaf 2024/25–2026/27

Ø  Statudol/Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol.

Ø  Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith angenrheidiol i isadeiledd er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

Ø  Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ailstrwythuro gwasanaethau er mwyn cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi yng nghynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor.

 

  • Rhaglen Gyfredol 2023/24–2025/26

 

  • Cyllid Disgwyliedig 2024/25–2026/27

 

  • Statudol/Rheoleiddiol – Dyraniadau Arfaethedig

 

Ø  Asedau wedi’u Cadw – Dyraniadau Arfaethedig (1)

Ø  Asedau wedi’u Cadw – Dyraniadau Arfaethedig (2)

Ø  Adran Fuddsoddi – Dyraniadau Arfaethedig (1)

Ø  Adran Fuddsoddi – Dyraniadau Arfaethedig (2) 

 

  • Crynodeb Rhaglen wedi ei Hariannu’n Gyffredinol

 

  • Cynlluniau sy’n Cael eu Hariannu’n Benodol

 

  • Crynodeb Rhaglen Gyfalaf

 

  • Cynlluniau Posib’ ar gyfer y Dyfodol

 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones ar yr adran gwaith adeiladu ysgolion ac asedau a gedwir ar dudalen 48, rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol eglurhad ar y dadansoddiad o'r ffigwr o £500,000 yn yr Adran Statudol. Yna, rhoddodd Rheolwr Corfforaethol y Rhaglen Gyfalaf ac Asedau wybodaeth am y Rhaglen Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ysgolion a'r Rhaglen Flaenoriaeth flynyddol a grëwyd o'r Arolygon Cyflwr a wnaed mewn ysgolion. Eglurwyd bod rhestr aros o atgyweiriadau i ysgolion gwerth tua £15 miliwn a bod yr £1 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r blaenoriaethau a oedd wedi’u pennu drwy'r tîm syrfewyr adeiladau ac arolygon cyflwr.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr adolygiad o ystadau diwydiannol a gofynnodd pam oedd angen dymchwel yr unedau gwag. Cynigiodd welliant y dylai'r unedau ar ystadau diwydiannol gael eu hadolygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i ddod i ddeall beth oedd ynghlwm â hynny.

 

Eglurodd y Rheolwr Corfforaethol fod yr unedau ym Maes Glas ac y tu hwnt i gael eu hatgyweirio’n fforddiadwy; ac roedd swm o £200,000 wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf i wneud y gwaith.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ystâd benodol y cyfeirid ati y tu hwnt i'w hatgyweirio ac y gallai unedau cychwynnol gael eu gosod yn lle’r unedau presennol ar gyfer busnesau bach oedd eu hangen. Byddai hyn hefyd yn mynd i'r afael â Threthi Busnes Unedau Gwag a oedd yn cael eu codi ar y Cyngor.

 

Croesawai’r Cynghorydd Richard Jones yr awgrym o adroddiad i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac yntau’n Gadeirydd.

 

Roedd y Cynghorydd Rosetta Dolphin yn croesawu dymchwel y tair uned ym Maes Glas a oedd, yn ei barn hi, yn risg i iechyd a diogelwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am Gymunedau Dysgu Cynaliadwy gan y Cynghorydd Crease, roedd y Rheolwr Corfforaethol ar ddeall bod Bandiau B ac C Cymunedau Cynaliadwy bellach wedi'u diddymu ond y gallai'r Cyngor ddwyn unrhyw brosiect y dymunai ymlaen fel rhan o'i raglen fuddsoddi. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio a Darpariaeth Lleoedd mewn Ysgolion) fod nifer o brosiectau oedd yn y rhaglen Band B ond heb eu datblygu eto oedd yn cynnwys darpariaeth addysg yn ardal Saltney a Brychdyn. Roedd adolygiad yn cael ei gynnal ar yr hyn a allai gael ei ystyried yng ngham nesaf y buddsoddiad, gan edrych ar unrhyw brosiect nad oedd wedi'i gynnwys yn y rownd nesaf. Dywedwyd bod proses ymgysylltu gynnar anffurfiol wedi'i chynnal yng nghymunedau Saltney a Brychdyn, a oedd yn wahanol i ymgynghoriad. Roedd datganiad i'r wasg wedi'i ddarparu i nodi’r prif themâu o'r broses ymgysylltu gynnar, gyda manylion llawn i gael eu darparu mewn adroddiad yn y dyfodol i'r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y Flwyddyn Newydd.

 

Cynigiwyd y gwelliant gan y Cynghorydd Peers ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones a chafodd ei gymeradwyo pan gynhaliwyd pleidlais ar y mater.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer yr adrannau Statudol/Rheoleiddiol ac Asedau a Gedwir yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2024/25–2026/27;

 

(b)          Cymeradwyo’r cynlluniau sydd yn Nhabl 4 ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2024/25–2026/27;

 

(c)          Nodi bod y diffyg o ran ariannu’r cynlluniau yn 2024/25 a 2025/26 yn Nhabl 5 ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau, gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ail-drefnu cynlluniau yn rhai fesul cam, yn cael eu hystyried yn ystod 2024/25 ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol;

 

(d)          Cymeradwyo’r cynlluniau sydd yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran sydd wedi’i hariannu’n benodol yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a fydd yn cael ei hariannu’n rhannol trwy fenthyca; a

 

(e)          Bod adroddiad ar unedau diwydiannol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol i’w ystyried.

 

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 07/05/2024

Dyddiad y penderfyniad: 06/12/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/12/2023 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: