Manylion y penderfyniad
Alleviating food poverty over the school holidays
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To consider proposals following the Notice of Motion (NOM) presented to Council in September 2023.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad gan ddweud yn ystod pandemig Covid bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnod y gwyliau a hanner tymor. Bwriad y cynllun oedd mynd i’r afael â ‘llwglyd dros y gwyliau’ ac i helpu teuluoedd a oedd yn methu ymdopi â’r argyfwng costau byw, a’r mecanwaith ar gyfer darparu’r fenter oedd un ai taliad uniongyrchol i deuluoedd â phlant cymwys neu dalebau, neu ddarparu cinio iddyn nhw.
Ar ddiwedd mis Mehefin fe gadarnhaodd LlC ei fod yn dod â’r gefnogaeth i ben
am ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i blant yn ystod cyfnod y gwyliau a hanner tymor.
Mewn cyfarfod y Cyngor ar 26 Medi 2023 mabwysiadwyd Rhybudd o Gynnig i
Brydau Ysgol am Ddim, a’r prif bwyntiau oedd:
- Bod Cabinet yn ymrwymo i weithio i ddod o hyd i adnoddau yn ystod
gwyliau’r Nadolig i deuluoedd sy’n derbyn prydau ysgol am ddim ac i gyflwyno adroddiad
i Gabinet ym mis Tachwedd gyda chynigion ar sut y gellir cyflawni hyn. Byddai Cabinet
- yn sefydlu gweithgor i adrodd yn ôl i Gabinet. Bydd y gweithgor
yn cael ei gadeirio gan Aelod Mainc Cefn y Cyngor ond bydd hefyd yn cynnwys y Cynghorydd Paul Johnson a’r Cynghorydd Mared Eastwood gyda chynrychiolwyr ar draws y Siambr.
Roedd cylch gorchwyl y gweithgor wedi’i atodi i’r adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo bod y taliad o £25.00 ar gyfer pob disgybl cymwys i fynd i’r afael â’r cyfnod dros wyliau’r Nadolig yn dod o’r gronfa galedi (amcangyfrifir cyfanswm o £129,825); a
(b) Bod Gr?p Gweithgor yn cael ei sefydlu a bod y gr?p yn adrodd yn ôl ar ei ddarganfyddiadau cyn penderfynu ar gyllideb 2024/25. Prif nod y Gweithgor yw ystyried ac argymell dewisiadau cynaliadwy ar gyfer gwyliau ysgol yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 30/11/2023
Dogfennau Atodol: