Manylion y penderfyniad
Housing Strategy Action Plan Performance Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the progress of the Council’s Housing Strategy 2019-2023 and action plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu’r Cynllun Cyflawni Strategaeth Dai 2019-2024 gyda phwyslais arbennig ar y flwyddyn ariannol 2022/23.
Roedd gan y Strategaeth Dai gynllun cyflawni oedd yn gosod 3 blaenoriaeth strategol a gweithgaredd cysylltiol i gyflawni’r blaenoriaethu hynny:
Blaenoriaeth 1: Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir.
Blaenoriaeth 2: Darparu cefnogaeth i sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref
Blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi
Darparwyd manylion ar y cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23; rhaglen ddatblygu/darparu arfaethedig; cynnydd yn erbyn y mesurau sefydledig; adnewyddu’r strategaeth dai a’r cynllun gweithredu; a’r camau nesaf. Mae’r camau nesaf yn amlinellu fframwaith ar gyfer adnewyddu’r strategaeth a’r amserlenni adrodd.
Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn egluro lefel yr her a wynebir yn sgil yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
Roedd yr adroddiad eisoes wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Tai ac ni chafwyd unrhyw sylwadau ar yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y sylwadau ar Gynllun Gweithredu Strategaeth Tai 2019/24; a
(b) Nodi’r newidiadau canlynol a amlinellwyd yn yr adroddiad:-
· Y broses PDP a symud i borth ar-lein
· Dileu’r cyfyngiad 20% ar y gyllideb ar gyfer caffaeliadau
· Alinio safonau a graddfa ymyrraeth ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro
Awdur yr adroddiad: Paul Calland
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/10/2023
Dogfennau Atodol: