Manylion y penderfyniad

Temporary Accommodation Homelessness Audit - Action Plan Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide a progress report on the action plan for service improvement following the audit of the Temporary Accommodation.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal yr adroddiad, a gyflwynai’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Archwilio Llety Dros Dro. 

 

Cyflwynwyd yr archwiliad i’r Pwyllgor ym mis Chwefror 2022 a’r Pwyllgor Archwilio ym mis Mawrth 2022; roedd yr adroddiad archwilio yn y categori coch ac yn amlygu meysydd i’w gwella.  Lluniwyd cynllun gweithredu yn sgil yr archwiliad mewnol a byddai Tîm Archwilio’r Cyngor yn mynd ati i adolygu’r gwasanaeth er mwyn asesu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r cynllun gweithredu.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal y lluniwyd cynllun manwl ar gyfer gwella’r gwasanaeth a oedd yn cynnwys yr holl gamau gweithredu angenrheidiol i weithredu argymhellion yr archwiliad, gan ganolbwyntio’n fwy pendant ar egwyddorion craidd rheoli tai, cefnogi pobl mewn llety dros dro a darparu dewisiadau ar gyfer symud ymlaen yn unol ag egwyddorion Ailgartrefu Cyflym.

 

Roedd copi o gynllun gweithredu’r archwiliad fel y’i diwygiwyd ddiwedd mis Medi 2023 ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1.  Er y gwnaed cynnydd â phob cam gweithredu, bu heriau sylweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ac estynnwyd y terfyn amser ar gyfer rhai o’r camau.  Rhestrwyd y rhesymau am hynny yn y rhan o’r adroddiad a soniai am Adnoddau, ond fe gyflawnid yr holl gamau gweithredu erbyn mis Mawrth 2024.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal y cyfarfu’r uwch-reolwyr â Thîm Archwilio Mewnol y Cyngor yn ddiweddar ac y cynhelid profion yn fuan ar y camau a gyflawnwyd, gan gynnwys adolygu’r dystiolaeth o’u cyflawni.  Byddai’r Pwyllgor yn dal i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Credai’r Cynghorydd David Evans bod cysylltiad rhwng y problemau â phobl yn datgan eu bod yn ddigartref ac eiddo gwag, a fyddai dan sylw’n ddiweddarach yn y cyfarfod.  Soniodd am nifer yr aelwydydd o gymharu â nifer y tai gwag, gan gydnabod fod hynny’n symleiddio’r sefyllfa, a holodd ynghylch nifer y bobl oedd yn byw mewn llety dros dro a gafodd eu rhoi mewn eiddo gwag.  Amcangyfrifodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal fod yno tua 30/35 ohonynt, ond byddai’n rhoi’r union nifer i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.  Soniodd am y gwaith a gyflawnodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai wrth roi eiddo gwag at ddefnydd o’r newydd, a oedd wedi arwain at ganlyniadau da, ond roedd hi’n bwysig hefyd ystyried a oedd yr eiddo’n addas ar gyfer rhywun mewn llety dros dro.  Dywedodd fod 183 o’r bobl hynny’n sengl, bod nifer helaeth ohonynt yn iau na 55 oed a bod y mwyafrif o’r eiddo gwag yn dai gwarchod.  Byddai’r dewisiadau ar gyfer lleihau’r gwasgfeydd ar y gyllideb ar gyfer digartrefedd yn dod gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf ac yn cynnwys adolygu tai gwarchod, ond ni fyddai hynny’n lliniaru ar yr holl wasgfeydd.  Dymunai’r Cyngor greu cymunedau sefydlog a chynaliadwy lle’r oedd yr holl drigolion yn byw mewn tai addas ac yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau. 

 

Holodd y Cadeirydd a ellid cynnwys y t?r fflatiau yn y Fflint wrth adolygu tai gwarchod.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y byddai’r holl gynlluniau yn Sir y Fflint yn rhan o’r adolygiad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Linda Thew o blaid sylwadau’r Cynghorydd Evans.  Soniodd am nifer y landlordiaid a oedd yn gadael y farchnad am fod pethau mor anwadal a morgeisi’n mynd yn ddrutach.  Cyfeiriodd hefyd at landlordiaid nad oeddent wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru, a diolchodd i’r Rheolwr Gwasanaeth am ei gymorth ag achos diweddar yn ei ward.  Gofynnodd pa gamau a gymerid pe byddai’r Cyngor yn gwybod fod landlord preifat heb gofrestru â Rhentu Doeth Cymru, ac a fyddai creu tasglu landlordiaid amheus, fel y trafodwyd mewn cyfarfod o’r Cyngor yn ddiweddar, yn cynorthwyo yn hynny o beth ac yn talu’i gostau ei hun.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal sut roedd y tîm yn gweithio â landlordiaid ledled Sir y Fflint, gan gynnwys asesu eu haddasrwydd.  Wrth brydlesu llety byddai’r Cyngor yn gweithredu fel landlord a phan ddefnyddid eiddo fel llety dros dro, byddai’r Cyngor bob amser yn cadarnhau bod yr eiddo hwnnw wedi’i gofrestru â Rhentu Doeth Cymru.  Roedd mynd i’r afael â landlordiaid amheus yn rhan o gylch gwaith Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, sef y corff a orfodai’r drefn ynghylch camymddwyn wrth reoli tai yn y sector preifat. 

 

Soniodd y Cynghorydd Ted Palmer am yr adolygiad o dai gwarchod a gynhelid cyn hir, a dywedodd na lwyddwyd i integreiddio’r tenantiaid ymhob achos a bod hynny wedi arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd yr amrywiaeth mewn oedrannau.  Gofynnodd am gymryd hynny i ystyriaeth wrth adolygu’r tai gwarchod.  Roedd y Cadeirydd o blaid sylwadau’r Cynghorydd Palmer a dywedodd y byddai’r Gr?p Gorchwyl a Gorffen Adolygu Tai Gwarchod yn eu hystyried.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer dderbyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Kevin Rush y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad, cyn i Dîm Archwilio’r Cyngor gynnal y gwaith archwilio dilynol.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: