Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Community & Housing Overview & Scrutiny Committee and to
inform the Committee of progress against actions from previous
meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried a dywedodd y cynhelid cyfarfod rhwng y Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Uwch-swyddogion yn y portffolio Tai a Chymunedau ar ôl cyfarfod y Pwyllgor, a chyflwynid fersiwn diwygiedig o’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i cyflwynwyd.
Wrth sôn am y camau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd bod Mark Tami AS wedi derbyn ymateb oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau a rannwyd â holl Aelodau’r Pwyllgor. Derbyniwyd gwybodaeth yngl?n â nifer y Therapyddion Iechyd Galwedigaethol hefyd, a rannwyd ag Aelodau’r Pwyllgor drwy e-bost.
Roedd swyddogion wrthi’n casglu gwybodaeth er mwyn ateb cwestiwn y Cynghorydd Dale Selvester yngl?n â chyfanswm y taliadau Treth y Cyngor a gollwyd oherwydd tai a fu’n wag am fwy na chwe mis, ac anfonid y wybodaeth at yr Aelodau pan oedd yn barod.
Cynigiodd y Cynghorydd David Evans dderbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Kevin Rush y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2023
Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: