Manylion y penderfyniad

End of Year Performance Monitoring Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities and performance levels identified in the Council Plan.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr adroddiad i adolygu'r lefelau cynnydd o ran cyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.  Dywedodd fod Cynllun y Cyngor 2022/23 wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23 ar ddiwedd y flwyddyn (Ch4) sefyllfa sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.

 

Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 78% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 61% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, roedd 11% yn cael eu monitro’n agos ac nid oedd 25% yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.   Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) am y gweithgareddau oedd yn dangos statws (COG) coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed perthnasol i Wasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth fel y manylwyd yn adran 10.5 o’r adroddiad, Blaenoriaeth - Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, is-flaenoriaeth - Economi Gylchol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) am y gweithgareddau oedd yn dangos statws (COG) ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed perthnasol i Gynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi fel y manylwyd yn adran 1.05 o’r adroddiad, Blaenoriaeth - Economi, is-flaenoriaeth - Busnes.    

 

Roedd y Prif Swyddog hefyd yn adrodd ar y mesurau dangosyddion perfformiad oedd yn dangos statws (COG) coch ar gyfer perfformiad yn erbyn y targed a osodwyd ar gyfer 2022/23, yn berthnasol ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi fel y manylwyd yn adran 1.08 o’r adroddiad.   Cyfeiriodd at y Flaenoriaeth - Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, is-flaenoriaeth - Carbon Niwtral/Ynni Adnewyddadwy a’r Flaenoriaeth - Economi, is-flaenoriaeth - Lleihau Diweithdra. 

 

Roedd y Cynghorydd Mike Peers yn cyfeirio at y targed ar gyfer ailgylchu ac yn gofyn a oedd yna gosb os nad oedd targedau yn cael eu cyflawni.    Hefyd, cyfeiriodd at yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff ac Ailgylchu Iard Safonol a ddefnyddir ar gyfer storio lorïau graeanu a gofynnwyd a oedd gan y Cyngor drwydded weithredu i storio’r cerbydau yn y safle. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers gwestiynau ar y canlynol:-

  • Tudalen 155: is-flaenoriaeth - Busnes - Cefnogi busnesau bach a/neu lleol i ymgysylltu â chyfleoedd caffael y sector cyhoeddus.  Dywedodd y Cynghorydd Peers nad oedd unrhyw eglurhad o ran pam nad oedd cyfleoedd i ddarparu digwyddiadau cadwyn gyflenwi yn cyflwyno eu hunain yn ystod 2022/23.
  • tudalen 172:  Cyflawni Cynllun Gwella Hawliau Tramwy gyda chanolbwynt ar sicrhau gwell mynediad i bawb a hyrwyddo Cerdded er Budd Iechyd - 100% wedi’i gwblhau.  Gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd holl lwybrau a chynnal a chadw wedi eu cynnwys ac nid oedd unrhyw gyfyngiadau.
  • tudalen 176: datblygu rhwydwaith gwefru ceir trydan y Sir.  Gofynnodd y Cynghorydd Peers beth oedd y cynllun ar gyfer Sir y Fflint yn y dyfodol. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Peers a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa bresennol yngl?n â pherfformiad ailgylchu, cyflawni’r targedau a chanlyniadau statudol, Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff ac Ailgylchu Iard Safonol a storio lorïau graeanu a gwefru cerbydau trydan.   

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Peers ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ac eglurodd fod y rhaglen waith ar gyfer 2022/23 i wella llwybrau wedi’i chyflawni 100%.     Roedd y Prif Swyddog hefyd wedi darparu gwybodaeth bellach mewn ymateb i’r cwestiwn yn ymwneud â chynnwys prosiectau cyfalaf. 

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Banks yn mynegi pryderon am danberfformiad ar gyflawni targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru a dywedodd ei fod yn teimlo y gellir gwneud mwy o gynnydd ar y gwasanaethau canlynol:  Casgliadau AHP i leihau gwastraff yn cael ei anfon i Barc Adfer, gorfodi a gwastraff bwyd yn y biniau, codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion yngl?n ag ailgylchu ac ymestyn casgliadau biniau brown i 12 mis.    

 

Roedd y Cynghorydd Mike Peers yn cynnig bod yr argymhelliad yn yr adroddiad yn cael ei newid fel a ganlyn:  Bod y Pwyllgor yn nodi’r lefelau o gynnydd o fewn Cynllun y Cyngor 2022/23 yn hytrach na chefnogi a bod y Pwyllgor yn nodi’r perfformiad cyffredinol yn erbyn perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23.

dangosyddion/mesurau.  Roedd y Cynghorydd Peers hefyd yn gofyn i drydydd argymhelliad gael ei gynnwys i nodi’r eglurhad a roddwyd i’r meysydd hynny o danberfformiad.    Cafodd yr argymhellion diwygiedig eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y lefelau cynnydd fel y manylwyd o fewn Cynllun y Cyngor 2022/23 yn

cael eu nodi; 

 

(b)       Bod y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion/mesurau Cynllun y Cyngor

2022/23 yn cael eu nodi; a

 

(c)        Bod yr eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni yn cael ei 

nodi.

 

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 29/05/2024

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: