Manylion y penderfyniad

Access Barrier Review – Wales Coast Path

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To inform members on a recent review into access barriers along the Wales Coast Path (Chester to Deeside Section) and seek their approval to implement the recommendations.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i hysbysu'r adolygiad diweddar i rwystrau mynediad ar draws Llwybr Arfordir Cymru (Adran Caer i Lannau Dyfrdwy) a cheisio cymeradwyaeth i weithredu’r argymhellion. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau ac argymhellion arfaethedig, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  Eglurodd fod y Cyngor wedi penodi ymgynghorydd i gynnal adolygiad o’r mesurau rheoli mynediad presennol ar waith ar adran o Lwybr Arfordir Cymru (LlAC) rhwng Caer a Queensferry.  Roedd y rhwystrau rheoli mynediad ar waith i ddiogelu defnyddwyr LlAC yn erbyn y perygl a gyflwynir gan fynediad cerbyd anghyfreithlon i’r llwybr, fodd bynnag, mae’r rhwystrau presennol yn gallu achosi materion mynediad i ddefnyddwyr rhai sgwteri symudedd a beiciau anghonfensiynol.  Roedd yr astudiaeth yn adolygu’r cyd-destun cefndir, deddfwriaethau, dimensiynau rhwystr a chyfyngiadau defnyddwyr er mwyn cyflwyno argymhellion ar gyfer pob un o’r 14 pwynt mynediad o Gaer i Lannau Dyfrdwy.   Yr argymhellion i wella mynediad yn cael ei gydbwyso yn erbyn unrhyw effaith addasiadau o’r fath ar hygyrchedd cerbydau anghyfreithlon.

 

Ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â rhwystrau mynediad, mynediad i’r anabl, sgwteri symudedd, sgwteri trydan, allweddi radar a defnydd anghyfreithlon a gwrth-gymdeithasol.   

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Banks hefyd yn codi pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a brawychus gan rai defnyddwyr/grwpiau yn ardal Talacre oedd yn difetha mwynhad llwybr yr arfordir i eraill.  

 

Roedd y Cynghorydd Mike Peers yn argymell fod y Cyngor yn ymgysylltu gyda’r grwpiau defnyddwyr y cyfeirir atynt yn yr Adolygiad.    Hefyd, gofynnodd a oedd yna gysylltiad gydag awdurdodau lleol eraill i ddysgu sut oedden nhw yn mynd i’r afael â materion problemus.   Eglurodd yr Arweinydd Tîm - Safleoedd bod yna gysylltiadau agos gydag Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru fel rhan o Lwybr yr Arfordir Gogledd Cymru.  Dywedodd fod gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb cyffredinol am Lwybr yr Arfordir ac roedd yn gweithio i wella’r llwybr troed i bobl gyda materion symudedd.     Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi argymhellion yn adroddiad yr Adolygiad i wella hygyrchedd.   

 

Roedd y Cynghorydd Dan Rose yn mynegi pryderon am ddiben a gweithrediad allweddi radar oedd yn dweud a allai fod yn rhwystr i rai defnyddwyr.   Roedd yn teimlo fod y defnydd o fframiau A a’r syniad o bobl gydag anableddau yn gorfod agor a chau giât bob tro yn gallu bod yn broblemus.  Dywedodd fod yna risg o bobl yn gadael giatiau yn agored gydag allweddi radar ac roedd yn teimlo ei fod yn bwysig cynnal peilot i asesu goblygiadau wrth symud ymlaen.   Awgrymodd mai datrysiad dros dro ar gyfer problemau oedd yn codi yn annisgwyl oedd bod giât yn cael ei chloi dros dro (er enghraifft dros nos).  Gofynnodd y Cynghorydd Rose a ellir darparu data ar y nifer o lwybrau nad oedd yn caniatáu mynediad i’r anabl.  

 

Ymatebodd yr Arweinydd Tîm - Safleoedd i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Rose ar y defnydd o allweddi radar a dywedodd y byddai’n darparu gwybodaeth ar y nifer o lwybrau nad oedd yn caniatáu mynediad i’r anabl yn Sir y Fflint.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at y math o giât mochyn a ddefnyddir yn Ystâd Chatsworth House yn Swydd Derby a all gynnig mynediad i gadeiriau olwyn a sgwteri symudol a gallai fod yn werth ei ystyried.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ian Hodge a roddwyd ystyriaeth i arwyneb y Llwybr a pha fesurau a ellir eu defnyddio i atal cyflymer.   Eglurodd yr Arweinydd Tîm - Safleoedd mewn ardaloedd eraill nad oedd ganddynt fynediad symudedd, roedd newidiadau wedi eu gwneud i arwyneb y llwybr ond nid oedd hyn wedi ei ystyried yn Sir y Fflint hyd yma.  

 

Roedd y Cynghorydd Richard Lloyd yn gwneud sylw ar pa un a oedd ymgynghori wedi digwydd gyda Chyngor Gorllewin Sir Gaer.  Roedd yn cefnogi’r awgrym gan y Cynghorydd Mike Peers y dylai ymgynghori pellach ddigwydd gyda grwpiau defnyddwyr. 

 

Roedd y Cynghorydd Mike Peers yn cynnig bod yr argymhelliad yn yr adroddiad yn cael ei newid fel a ganlyn:   Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau Adolygiad Rhwystr Llwybr Arfordir Cymru ac yn cefnogi, mewn egwyddor, yr argymhellion i wella hygyrchedd, fel y manylwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar ymgynghori gyda’r grwpiau defnyddwyr, a bod adroddiad pellach ar y canlyniad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.    Eiliodd y Cynghorydd Richard Lloyd y cynnig a phan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau Adolygiad Rhwystr Llwybr Arfordir Cymru ac yn cefnogi, mewn egwyddor, yr argymhellion i wella hygyrchedd, fel y manylwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar ymgynghori gyda’r grwpiau defnyddwyr, a 

 

(b)       Bod adroddiad pellach ar ganlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.   

 

Awdur yr adroddiad: Tom Woodall

Dyddiad cyhoeddi: 29/05/2024

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: