Manylion y penderfyniad
Communities 4 Work
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the closure of the
Communities for Work programme across Wales following the end of
the European Structural Fund programmes.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gau’r rhaglen Cymunedau am Waith ledled Cymru, wedi i raglenni Cronfa Strwythurol Ewrop ddod i ben. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd ym mis Rhagfyr 2022 y cyhoeddwyd y byddai Sir y Fflint yn derbyn cyllid digonol gan Lywodraeth Cymru i barhau i ddarparu cefnogaeth Cymunedau am Waith a galluogi’r Cyngor i gadw’r tîm llawn o staff i wneud hynny. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a’r newidiadau a gyflawnwyd a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Rhoddodd Rheolwr C4W/C4W+ drosolwg o’r pwyntiau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy (C4W+), rhaglenni llwybrau, ffeiriau swyddi, llwybrau gofal cymdeithasol , gwaith partneriaeth gyda chyflogwyr lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge sut oedd unigolion yn cael eu hatgyfeirio i’r rhaglenni gwaith. Hefyd gofynnodd am ddiweddariad ar waith gyda Waites. Dywedodd Rheolwr C4W/C4W+ bod gwaith gyda Waites yn parhau a rhoddodd sylw ar y canlyniadau llwyddiannus. Hefyd eglurodd bod unrhyw unigolyn o fewn Sir y Fflint 16+ oed sydd yn ddi-waith yn gallu cael mynediad at y Rhaglen C4W+.
Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson sylw ar yr angen i godi ymwybyddiaeth ymysg Aelodau a’r cyhoedd o’r cyfleoedd sydd ar gael gyda’r Rhaglen.
Cododd y Cynghorydd Hilary McGuill gwestiynau ynghylch y goblygiadau ariannol i bobl sydd yn cael taliadau cymorth cymdeithasol. Hefyd gofynnodd a yw ffoaduriaid/ ceiswyr lloches sy’n byw yn Sir y Fflint yn gymwys i gael mynediad at y Rhaglen. Eglurodd Rheolwr C4W/C4W+ bod y Gwasanaeth yn gweithio gydag unrhyw unigolyn sydd yn byw yn Sir y Fflint, a bod pob unigolyn gydag adolygiad mentor cadarn i asesu anghenion, cefndir a sefyllfa ariannol. Cadarnhaodd bod ffoaduriaid yn dod i mewn i’r Sir yn cael eu cefnogi.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Roy Wakelam a’i eilio gan y Cynghorydd Dan Rose.
PENDERFYNWYD
I gefnogi cau’r rhaglen Cymunedau am Waith a’r trefniadau newydd i gefnogi pobl ddi-waith hirdymor,
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 29/05/2024
Dyddiad y penderfyniad: 16/05/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol: