Manylion y penderfyniad
Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) Annual Report, February 2023
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i roi manylion yr adroddiad blynyddol terfynol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023-24. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd na fu unrhyw newidiadau i’r cynigion oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad drafft a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022 ac felly byddai’r holl ffigyrau a ddarparwyd yn adroddiad Tachwedd yn cael eu gweithredu o 1 Ebrill 2023.
Wrth gymeradwyo’r argymhelliad, cyfeiriodd y Cynghorydd Ted Palmer at baragraff 1.05 o’r adroddiad a mynegodd bryder y gall Aelodau neu aelodau cyfetholedig deimlo dan bwysau gan y datganiad IRPW i hepgor unrhyw ran o’u hawliad i dâl o dan benderfyniad y Panel ar gyfer y flwyddyn arbennig honno. Cafodd yr argymhelliad ei eilio gan y Cynghorydd Gillian Brockley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023/24.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 21/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/03/2023 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Dogfennau Atodol: