Manylion y penderfyniad
Housing Management Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider Estate Management and work being
undertaken by the Council and the impact this has on
tenants.
Penderfyniadau:
Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) ddiweddariad ar Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru a’r newidiadau presennol yn y ddeddfwriaeth, gyda’r prif un yn ymwneud â’r newid enw o fod yn ‘gytundeb tenantiaeth’ i’r term newydd sef ‘contract’ ac o ‘denantiaid’ i ‘ddeiliaid contract’. Roedd sioeau teithiol yn dal i gael eu cynnal i roi gwybod i ddeiliaid contract am y newidiadau a byddent yn parhau drwy gydol yr haf, gyda sesiynau gweithdy ar gael yn hygyrch i ddeiliaid contract a ofynnodd amdanynt.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Polisi newydd yn dal ar ffurf drafft i symleiddio'r broses. Roedd y broses ymgynghori ar y gweill, a chroesawodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) gyfraniad yr Aelodau.Byddai'r Polisi'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn i'w gymeradwyo.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r polisi Rheoli Tai.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2023
Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: