Manylion y penderfyniad
Tackling the impact of inequality on educational outcomes
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To outline how the Council supporting early
childhood education and care, primary and secondary education and
all forms of post-16 education, training and lifelong learning to
ensure an equitable education system for all.
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) bod yr adroddiad yn rhoi gorolwg o effaith tlodi a bwlch cyflawni i ddysgwyr ar draws Cymru rhwng y rhai o aelwydydd mwy cefnog i’r rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig. Roedd hyn wedi bod yn her ar draws Cymru ers nifer o flynyddoedd ac wedi’i amlygu ers y pandemig gyda Mynd i’r Afael â Thlodi ac Anfantais yn thema allweddol ar gyfer y portffolio yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023/28.
Roedd yr Uwch Reolwr wedi cyfeirio’r Aelodau at adran 1 o’r adroddiad oedd yn amlygu’r dangosyddion cenedlaethol oedd yn mesur cynnydd a’r prif ganfyddiadau o’r ymchwil diweddar ar effeithiau anghydraddoldebau addysgol. Roedd pwynt 1.07 yn yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar y ffocws cenedlaethol a’r ymchwil o effeithiau’r pandemig, gyda phwyntiau 1.08 ac 1.09 yn rhoi gwybodaeth ar sut yr oedd ysgolion yn gallu defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion i gael mynediad i gyllid i gefnogi’r disgyblion hyn. Roedd Estyn yn gwerthuso sut yr oedd ysgolion yn defnyddio’r cyllid hwn ac roedd gan yr awdurdod broffil cryf yn y cyswllt hwn. Yna, adroddodd yr Uwch Reolwr ar enghreifftiau o arfer da o’r Tîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Tîm Ysgolion Iach a’r ymrwymiad i bob plentyn ysgol dderbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie, cytunodd yr Uwch Reolwr ei bod yn bwysig sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i alluogi’r awdurdod i ymgymryd â chefnogaeth yn effeithiol. Roedd yn anodd cymharu Cymru gyda Lloegr gan fod Cymru yn cynnwys prosesau ychydig yn wahanol, canlyniadau, prosesau arholi a’r cwricwlwm newydd. Y prif thema oedd bod y ddwy genedl angen gwella gyda’r ddwy yn dechrau o bwynt anfantais gyda dysgwyr yn cynnwys mwy o rwystrau ac nid yn cyflawni’r un lefelau â’r dysgwyr hynny nad oedd wedi eu hanfanteisio. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi adolygu hyn ac yn edrych ar ffyrdd i gyflymu’r cynnydd ar draws Cymru.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y data ONS oedd yn nodi nad oedd plant difreintiedig oedd â’r un cymwysterau addysg yn cyflawni’r un fath o ran cyflogau uwch a chyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd. Roedd yn ymddangos mai’r rheswm oedd ymgysylltu â’r farchnad lafur ac roedd yn meddwl tybed a ellir gwneud mwy o ran profiad gwaith ac ymgysylltu gyda’r diwydiant i alluogi plant difreintiedig i gael y sgiliau cymdeithasol ynghyd ag addysg i’w galluogi i lwyddo.
Cytunodd yr Uwch Reolwr gyda’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Parkhurst yn dweud bod gwaith yn cael ei wneud i adolygu’r meysydd hyn i gyd, cysylltu â chydweithwyr ar draws Gogledd Cymru ar y Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, yr Ymgynghorydd Dysgu Ôl-16 a’r Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd. Byddai hyn yn galluogi dealltwriaeth well o’r farchnad lafur, cyfleoedd gwaith a dyheadau gyrfa oedd hefyd yn cynnwys y Rhwydwaith Seren ar gyfer gwneud cynnydd i fynd i’r brifysgol i ddysgwyr mwy galluog. Hefyd, bwriadwyd datblygu cysylltiadau cryfach gyda’r Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i sicrhau bod gan Sir y Fflint gynrychiolaeth gryfach i weithio gydag ysgolion. Cytunodd i ddarparu diweddariad i’r Pwyllgor ar y gwaith hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dywedodd y Prif Swyddog fod hyn wedi’i drafod yn ddiweddar mewn cyfarfod Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ac roedd yn flaenoriaeth uchel ar gyfer y portffolio. Roedd yr adroddiad yn dangos bod hwn yn fater cenedlaethol a bod y Cyngor yn edrych ar beth y gellir ei wneud yn lleol i fynd i’r afael â hyn. Nid oedd ysgolion yn gallu gwneud hyn eu hunain ac roedd yr adroddiad yn amlygu’r ystod o strategaethau yr oedd y Cyngor yn ceisio eu mabwysiadu i gefnogi ysgolion. Roedd hyn yn dechrau yn yr ystafell ddosbarth gydag addysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr oedd yn bodloni eu hanghenion unigol. Cyfeiriodd at wella ysgolion a’r gwaith gyda GwE i godi ansawdd addysgu yn gyson mewn ystafelloedd dosbarth i alluogi disgyblion i gyflawni eu cymwysterau a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ar hyd eu llwybrau i brentisiaethau, coleg, prifysgol neu’r byd gwaith. Roedd gwaith Dysgu Cymunedol Oedolion yn strategaeth allweddol arall oedd yn cefnogi pobl ifanc yn ogystal â theuluoedd a rhieni gyda chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu addysgol i’w galluogi i wneud cynnydd yn eu bywydau gwaith.
Cyfeiriodd Mrs Lynne Bartlett at y trydydd paragraff ar dudalen 54 o’r adroddiad oedd yn amlygu’r nifer o ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a gofynnodd a oedd y rhesymau dros y cynnydd yn hysbys. Yn flaenorol, roedd y cyllid a dderbyniwyd gan Sir y Fflint yn seiliedig ar y lefel o gyflogaeth uchel ac roedd yn bryderus fod Sir y Fflint nawr yn agos at gyfartaledd Cymru o ran prydau ysgol am ddim. Roedd yna lefelau uwch o dlodi yn Sir y Fflint a gofynnwyd a ddylid derbyn mwy o arian i gefnogi hyn.
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog bod y rhesymau dros y cynnydd mewn prydau ysgol am ddim yn amrywio gydag agweddau o gyflogaeth, teuluoedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi, yr argyfwng costau byw a phrisiau bwyd. Y portffolio oedd yn gyfrifol am sicrhau bod y cyfraniadau yn cael eu gwneud yn strategol drwy ei bolisïau i gefnogi ysgolion a sicrhau bod y drafodaeth yn fyw gyda’u hysgolion.
Roedd y Cynghorydd Bill Crease yn siarad am ei brofiad personol a’r ddealltwriaeth bod addysg y brif ffordd i symud oddi wrth yr amgylchedd difreintiedig. Dywedodd nad oedd hyn yn ymwneud â thlodi yn unig a bod y dyhead i weithio i gael rhywbeth gwell wedi’i golli gan genhedlaeth o rieni a theidiau a neiniau. Roedd rhan fawr o’r broblem y tu allan i’r ysgol ac ymgysylltwyd â rhieni, teidiau a neiniau a gofalwyr ar y llwybr maith hwn. Eglurodd fod Cymru a’r Alban yn derbyn mwy o arian drwy Fformiwla Barnett na Lloegr felly roedd yn ymwneud ag ymgysylltu â phobl a chymdeithas yn gyffredinol ac ni fyddai’n cael ei ddatrys nes mynd i’r afael â hynny.
Roedd Mrs Lisa Allen yn teimlo fod y pandemig Covid wedi amlygu’r diffyg hygyrchedd llyfrau, cyfrifiaduron, mynediad i’r rhyngrwyd, mannau tawel i astudio, mannau diogel i gysgu ac argaeledd bwyd yn y cartref. Gofynnodd a oedd mwy o ddulliau o dan arweiniad cymunedol wedi eu hystyried a bod dysgu o fewn y teulu hefyd yn allweddol i dorri materion rhyng-genhedlaeth i lawr. Cyfeiriodd at siop cyfnewid gwisg ysgol yn ei hysgol leol oedd yn helpu rhieni. O ran prydau ysgol am ddim cyffredinol, gofynnodd a oedd yna bryder o amgylch y gostyngiad mewn arian grant a beth oedd yn cael ei roi yn ei le i sicrhau nad oedd hynny’n digwydd ac a oedd rhieni yn ymwybodol ei bod yn dal yn ofynnol iddynt ymgeisio am yr arian grant hwnnw.
Ymatebodd yr Uwch Reolwr bod yna adroddiad ar weithgareddau ymgysylltu oedolion a gyflwynir i’r Tîm Dysgu Oedolion yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf ac amlinellodd y byddai hynny’n cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Roedd prydau ysgol am ddim wedi eu cysylltu â’r Grant Datblygu Disgyblion ac roedd rhieni yn cael eu hannog i barhau i ymgeisio.
Dywedodd y Prif Swyddog bod hyn yn risg i’r portffolio. Roedd y Tîm Budd-daliadau Lles yn cefnogi rhieni i gael yr holl fudd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt oedd yn cynnwys prydau ysgol am ddim. Byddai cyfathrebu ar hyn yn parhau drwy blatfform cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a’r wefan i hybu’r negeseuon allweddol hynny oherwydd os byddai ffigwr hawl prydau ysgol am ddim yn gostwng byddai’n effeithio ar y cyllid yr oedd ysgolion yn ei dderbyn. Ar draws ysgolion Sir y Fflint roedd yna draddodiad hir a balch o Ddysgu fel Teulu a’r ymgysylltu yn digwydd mewn ysgolion ac roedd y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn darparu cyfleoedd ychwanegol i rieni. Gan gyfeirio at wisg ysgol, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i leihau’r gost o wisg ysgol drwy ddileu logos ac roedd ysgolion yn cael eu hannog i gymryd sylw o hyn ac roedd yn darparu gwybodaeth ar gysylltu cynlluniau cyfnewid gwisg ysgol yn y gymuned. Roedd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chydweithwyr Gwasanaethau Stryd i allu casglu gwisg ysgol diangen o gartrefi pobl neu Ganolfannau Ailgylchu Aelwydydd gyda chais am arian wedi’i wneud i Lywodraeth Cymru drwy’r economi gylchol i gefnogi hyn. Byddai’r eitemau hyn yn cael eu casglu gan y Gwasanaethau Stryd yna’n cael eu golchi, eu didoli a’u trefnu gan NEWydd i’w ailddosbarthu i ysgolion. Yn ystod y pandemig, roedd y portffolio yn llwyr ymwybodol o deuluoedd nad oedd yn gallu cael mynediad i ddyfeisiau na band-eang a thrwy waith yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Cynradd roedd ysgolion yn gallu benthyg offer a dyfeisiau MiFi oedd yn eu galluogi i gael mynediad i Wi-Fi hefyd. Roedd Strategaeth Ddigidol y Cyngor yn haen allweddol i fynd i’r afael â thlodi i alluogi disgyblion gael mynediad i’r dyfeisiau hyn i gefnogi eu haddysg. Roedd aelodau wedi eu cyfeirio i bwynt 1.10 yn yr adroddiad oedd yn amlinellu pa mor bwysig oedd deall sut oedd y diwrnod ysgol, blwyddyn neu ddigwyddiadau yn effeithio ar deuluoedd oedd yn dioddef tlodi. Roedd y Comisiynydd Plant wedi hybu’r ymgyrch “Gofyn i Ceri” i ysgolion aros a meddwl wrth gynllunio digwyddiadau, teithiau, prom ac ati i ddeall sut oedd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar deuluoedd mewn tlodi.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Preece ei bod yn sefyllfa ofnadwy a’i bod yn awyddus i weld effeithiau’r ymgyrch “gofyn i Ceri” mewn ysgolion. Gofynnodd a oedd yn bosibl derbyn adroddiad dilyniant y flwyddyn nesaf yn amlinellu effeithiau o’r ymgyrch hwnnw.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’i eilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd yngl?n â gwaith y Portffolio Addysg ac Ieuenctid i gefnogi ysgolion fynd i’r afael ag effaith tlodi ac anfanteisio ar eu dysgwyr.
Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield
Dyddiad cyhoeddi: 18/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 11/05/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/05/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: