Manylion y penderfyniad
Risk Management Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To be assured that the updated risk management framework is comprehensive and functional.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad diweddaru i roi sicrwydd o gynnydd wrth symud yr holl risgiau i’r system Rheoli Risg newydd ‘InPhase’.
Ers yr adroddiad ym mis Tachwedd 2022, cafodd y fframwaith rheoli risg ei rannu gyda swyddogion allweddol a’i gyhoeddi ar-lein, gyda phortffolios yn cynnal adolygiad o’u risgiau perthnasol. Roedd y tîm Perfformiad a Rheoli Risg bellach yn derbyn yr adnoddau llawn ac roedd modiwl e-ddysgu wedi cael ei ddatblygu. Roedd yr holl risgiau strategol bellach wedi’u llwytho ar InPhase a byddai pob risg yn cael ei ddyrannu i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol, gyda phroses yn cael ei sefydlu i adrodd yn rheolaidd i dîm y Prif Swyddog a thynnu sylw at unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio. Fel y camau nesaf, awgrymodd y swyddog bod y pwyllgor hwn yn derbyn trosolwg lefel uchel o risgiau strategol lle’r oedd risgiau yn tan-gyflawni, yn cynnwys cyfeiriad teithio gyda’i gilydd, gyda chrynodeb o’r risgiau hynny i ystyried a ddylid gwahodd y Prif Swyddog perthnasol i roi eglurhad. Byddai’r adroddiad hefyd yn cynnwys manylion adrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i roi sicrwydd pellach.
Cytunodd y Cadeirydd gyda’r awgrym, a fyddai’n rhoi cyfle i’r Pwyllgor ganolbwyntio ar feysydd penodol o bryder lle bo angen.
Bu i’r Rheolwr Archwilio Mewnol dderbyn sylwadau’r Parch Brian Harvey y dylai’r Pwyllgor gael digon o wybodaeth i ddeall yn glir y materion i’w alluogi i ychwanegu gwerth a gwneud gwahaniaeth.
Hefyd yn siarad o blaid, gwnaeth Sally Ellis sylwadau ar yr angen i gytuno ar feini prawf ar gyfer gwahodd Prif Swyddogion i annerch y Pwyllgor ar risgiau, i wahanu rolau’r Pwyllgor a Throsolwg a Chraffu. Cytunodd y swyddogion i ymgorffori hwn i’r broses.
Cafodd yr argymhelliad, fel y’i diwygiwyd, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Linda Thomas a Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl cael sicrwydd bod y risgiau wedi eu rheoli drwy gydol y flwyddyn, bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn cytuno bod y lefel o wybodaeth sydd ei angen fel yr awgrymwyd gan y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 04/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: