Manylion y penderfyniad
Annual Audit Summary for Flintshire County Council
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive the Annual Audit Summary from the Auditor General for Wales and note the Council’s response.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Carwyn Rees o Archwilio Cymru y Crynodeb Archwilio Blynyddol oedd yn crynhoi casgliadau gwaith archwilio, rheoleiddio ac arolygu a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru (AC) yn ystod 2021/22. Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, heb unrhyw argymhellion ffurfiol wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn.
Gofynnodd y Cadeirydd am waith yn y dyfodol ar wydnwch ariannol ac fe’i cynghorwyd bod gwaith manwl ar y sefyllfa archwilio ariannol yn cael ei drefnu tuag at ddiwedd 2023/24.
Pan ofynnwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge am ‘Cyfle wedi’i Golli – Mentrau Cymdeithasol’, eglurwyd bod hwn yn ddarn o waith cenedlaethol yn cynnwys cael negeseuon cyffredin gan sampl o gynghorau. Gofynnodd y Cynghorydd Attridge sut allai hyn fod o fudd i Sir y Fflint ac mewn ymateb, cytunodd y swyddog i adolygu’r adroddiad a gwrando a chysylltu â’r swyddogion angenrheidiol i sefydlu os ellir ymgorffori hwn i’r Cynllun Archwilio.
Cyfeiriodd Sally Ellis at adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn adolygu trefniadau’r Cyngor i sicrhau gwerth am arian mewn defnyddio adnoddau. Cynghorodd Carwyn Rees y byddai’r adroddiad drafft yn cael ei rannu gyda’r Cyngor yn fuan a chytunwyd i’w gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor.
Cynigwyd ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynnwys a sylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2022.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 04/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: