Manylion y penderfyniad
Estyn Inspection of Adult Community Learning (ACL) within the North East Wales Adult Community Learning Partnership
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the Estyn Report on Adult Community Learning Partnership.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion yr adroddiad a manylu’r canfyddiadau o’r arolygiad Estyn ar Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru. Rhoddodd y cefndir i sefydlu’r Bartneriaeth rhwng Sir y Fflint a Wrecsam i fodloni dyheadau Llywodraeth Cymru ac anghenion newidiol dysgwyr sy’n oedolion drwy gynyddu’r capasiti a gwneud y mwyaf o ffrydiau ariannu ychwanegol. Bu iddi amlinellu sail yr arolygiad a’r canfyddiadau allweddol a oedd yn cydnabod arweinyddiaeth dda a chefnogaeth gref gan y ddau gyngor, yr ystod o ddarpariaeth a’r effaith ar ddysgwyr. Roedd yr adroddiad yn cydnabod gweledigaeth gadarn y Bartneriaeth a’i allu i ddeall ei gryfderau a’r meysydd i’w gwella, fel y dangoswyd yn y pedwar argymhelliad gan Estyn a oedd eisoes wedi eu nodi trwy’r broses hunan-asesu. Roedd y canlyniadau cadarnhaol yn golygu nad oedd gofyniad i gynnal unrhyw gamau dilynol gan Estyn a oedd wedi gwahodd y Bartneriaeth i baratoi dwy astudiaeth achos o arfer cadarnhaol a gafodd eu cyhoeddi ar wefan Estyn.
Bu i’r Cynghorydd Bernie Attridge ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol a mynegodd yr Uwch Reolwr ei balchder yn ymroddiad a chreadigrwydd y tîm bach a’u dull rhagweithiol i gael mynediad at gyllid grant.
Mewn ymateb i gwestiynau, rhoddwyd enghreifftiau i’r Parch Brian Harvey o gynllun uchelgeisiol y Bartneriaeth i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg a gwella sgiliau ymysg dysgwyr a’r gweithlu. I wella’r cyfleoedd i ddysgwyr dderbyn cyngor ac arweiniad am ymuno â darpariaeth y Bartneriaeth, roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid i ddatblygu’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i fodloni’r galw cynyddol am ddarpariaeth dysgu oedolion.
Cymerodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y cyfle i ddiolch yn ffurfiol i’r Uwch Reolwr am ei harweinyddiaeth, ac i Dawn Spence fel Cydlynydd y gwasanaeth. Dywedodd bod yr adroddiad Estyn yn adlewyrchu ansawdd y timau sy’n gweithio yn y Bartneriaeth ac y byddai adroddiad blynyddol ar ddysgu oedolion yn y gymuned i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn rhoi sicrwydd bod cynnydd ar yr argymhellion yn cael ei fonitro.
Yn dilyn nifer o sylwadau cadarnhaol gan Aelodau, gofynnodd y Cadeirydd os ellir diolch i’r tîm am eu gwaith a’r canlyniadau cadarnhaol, ar ran y Pwyllgor.
Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau Arolwg Estyn a’u bod wedi cael sicrwydd gan y canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Vicky Barlow
Dyddiad cyhoeddi: 04/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: