Manylion y penderfyniad
Housing Regeneration Grants and Loans Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To review and approve the draft refreshed Housing Regeneration Grants and Loans Policy.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Healey yr adroddiad ac eglurodd fod rôl y Tîm Adfywio Tai wedi newid dros y blynyddoedd ers iddo gael ei greu gan fod cyllid wedi canolbwyntio mwy ar leihau carbon mewn tai a llai ar fesurau ehangach i wella cyflwr tai yn y sector preifat.
Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y tîm, yn nodi cyfres o flaenoriaethau a argymhellwyd i’r tîm ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol, ac yn cynnig y dylai’r Polisi Grantiau a Benthyciadau’r Sector Preifat, sydd bellach yn hen ffasiwn, gael ei ddisodli gan restr syml o grantiau a benthyciadau sydd ar gael i ddeiliaid tai yn Sir y Fflint.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle cefnogwyd ei ganfyddiadau a’i gynnwys. Gwnaed sylw ar yr angen am gyfathrebu â phreswylwyr i'w hysbysu ynghylch sut y gellid cael gafael ar yr arian. Byddai adroddiad ar wahân ar fenthyciadau, gan gynnwys benthyciadau canol tref, yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mai.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Tîm Adfywio Tai yn cael ei nodi a bod blaenoriaethau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol yn cael eu cymeradwyo; a
(b) Cymeradwyo'r rhestr grantiau a benthyciadau, a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd a Chefn Gwlad a'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i amrywio'r amserlen wrth i'r cyllid sydd ar gael neu'r gofynion newid.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 11/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 25/04/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/05/2023
Dogfennau Atodol: