Manylion y penderfyniad
HyNet Carbon Capture Project; The Council's Local Impact Report for the Proposed Cross Country Carbon Dioxide Pipeline and Continued Member Engagement
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To endorse the draft Local Impact Report and delegate any further versions/addendums that may be required during the examination process of the Carbon Dioxide Pipeline.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad ac esboniodd bod cwmni Liverpool CCS Limited yn bwriadu adeiladu a gosod piblinell carbon deuocsid newydd rhwng Ince, ger Stanlow, a’r Fflint, a rhoi ail bwrpas i biblinell nwy naturiol bresennol rhwng y Fflint a Thalacre. Enw’r prosiect hwnnw oedd Piblinell Carbon Deuocsid y Gogledd-orllewin HyNet (HyNet North West Carbon Dioxide Pipeline) ac roedd yn cael ei ystyried yn Brosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol (NSIP).
Roedd y broses gymeradwyo yn wahanol ar gyfer Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol, a gwnaed cais o dan Ddeddf Cynllunio 2008 am ganiatâd sy’n cael ei alw’n Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).
Roedd y cais i adeiladu a gweithredu'r Biblinell Carbon Deuocsid arfaethedig wedi'i gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio (Lloegr) a fyddai'n gweinyddu'r cais DCO ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Dechreuwyd archwiliad o’r cynnig NSIP ar 20 Mawrth 2023. Rhan o rôl yr Awdurdod Lleol i lywio’r broses benderfynu oedd llunio Adroddiad Effaith Leol i gynorthwyo’r Awdurdod Archwilio i wneud argymhelliad i’r Gweinidog.
Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnwys Adroddiad Effaith Lleol drafft y Cyngor a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.
Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd yr adroddiad effaith lleol a map o leoliad y biblinell.
Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) a'r Cynghorydd Roberts i'r Rheolwr Cynllunio Mwynau a Gwastraff am ei holl waith ar y prosiect a chroesawyd yr elfen budd cymunedol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r Adroddiad Effaith Lleol drafft; a
(b) Bod unrhyw atodiad i Adroddiad Effaith Lleol y Cyngor y gallai fod ei angen yn cael ei ddirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd.
Awdur yr adroddiad: Hannah Parish
Dyddiad cyhoeddi: 11/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 25/04/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/04/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/05/2023
Dogfennau Atodol:
- HyNet Carbon Capture Project; The Council’s Local Impact Report for the proposed cross country Carbon Dioxide Pipeline PDF 114 KB
- Enc. 1 for HyNet Carbon Capture Project; The Council’s Local Impact Report for the proposed cross country Carbon Dioxide Pipeline PDF 2 MB
- Enc. 2 for HyNet Carbon Capture Project; The Council’s Local Impact Report for the proposed cross country Carbon Dioxide Pipeline PDF 904 KB
- Enc. 3 for HyNet Carbon Capture Project; The Council’s Local Impact Report for the proposed cross country Carbon Dioxide Pipeline PDF 7 MB