Manylion y penderfyniad
Annual Report of the North Wales Regional Partnership Board 2021/2022
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide information with regards to the
North Wales Regional Partnership Board and is activities during
2021/22.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu'r adroddiad a oedd yn ofyniad o fewn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) yn paratoi, yn cyhoeddi ac yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (LlC).
Pwrpas Rhan 9 y Ddeddf oedd gwella canlyniadau a lles pobl, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd darpariaeth y gwasanaeth. Prif amcanion cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio oedd:-
· Gwella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth
· Gwella canlyniadau ac iechyd a lles
· Darparu gofal a chymorth cydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
· Defnyddio adnoddau, sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithiol
Cytunodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu i ofyn i'r Bwrdd Rhanbarthol am bob un o'r 125 a oedd wedi'u cynnwys ar restr Prosiect Cronfa Gofal Integredig ar gais y Cadeirydd.
Roedd y Cynghorydd Mackie yn bryderus ynghylch y gwall ar dudalen gynnwys adroddiad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a holodd hefyd a oedd yr adroddiad yn adroddiad cyffredinol a oedd wedi'i ysgrifennu gan ddilyn canllawiau LlC gan ei fod yn anodd craffu arno oherwydd y diffyg gwybodaeth a oedd yn yr adroddiad.
Ymatebodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu i'w bryderon gan egluro bod strwythur yr adroddiad wedi ei osod o fewn deddfwriaeth ond cytunodd nad oedd hyn yn wir am strwythur y cynnwys. Cadarnhaodd y byddai'n cysylltu â'r Tîm Cydweithredu Rhanbarthol a ysgrifennodd yr adroddiad i roi’r sylwadau gan ei bod yn bwysig os nad yw eraill wedi nodi'r pwyntiau a godwyd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod ef a’r Cynghorydd Jones ill dau yn aelodau o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac y byddent yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd ond tynnodd sylw at y ffaith bod rhai camau cyflawni wedi’u cynnwys yn yr adroddiad o fewn siart cylchol, ond cytunodd y dylai’r un lefel o ddarpariaeth fod ar lefel ranbarthol ag ar lefel leol. Ychwanegodd fod cymorth gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi helpu ac nad oedd hyn yn amlwg o'r adroddiad.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r gwaith y mae angen i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud; a
(b) Nodi’r gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2021/22 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Accompanying Documents: