Manylion y penderfyniad
Grass Cutting Policy – Managing Road Verges and Amenity Grasslands to Support Biodiversity
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To consider the opportunities available to
increase biodiversity in the management of road verges and amenity
grasslands through the Council’s grass cutting
policy.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac yn dilyn cais gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi, cynhaliwyd gweithdy i bob aelod ddydd Mawrth 24 Ionawr 2023 er mwyn dysgu mwy am reoli glaswelltiroedd ymylon ffordd ac amwynderau, blodau gwyllt a bioamrywiaeth. Ceisiodd Aelodau ddysgu mwy am ddefnyddio plaladdwyr a deall polisïau presennol, a chamau a gymerwyd hyd yn hyn a’r cyfleoedd sydd ar gael. Roedd y gweithdy yn ddigwyddiad portffolio ar y cyd, a gafodd ei hwyluso gan swyddogion o bortffolio Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi a phortffolio Strydwedd a Thrafnidiaeth.
O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gynnal a hybu bioamrywiaeth. Gallai torri gwair ymylon ffordd a glaswelltiroedd amwynderau mewn ffordd ystyrlon helpu i fodloni’r ddyletswydd hwnnw.
Pwrpas yr adroddiad oedd darparu trosolwg o’r gwaith a wnaed hyd yma, ac i ystyried y cyfleoedd ar gyfer adolygu’r polisi yn y dyfodol. Yn ychwanegol, fel portffolio, roedd Strydwedd a Thrafnidiaeth yn adrodd yn rheolaidd am berfformiad blynyddol y gwasanaeth torri gwair i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi at ddibenion sicrwydd. Felly roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad i’r Cabinet am berfformiad y gwasanaeth yn ystod 2022.
Canmolodd y Cynghorydd Healey y berthynas weithio rhwng y Swyddog Bioamrywiaeth a staff yng Ngwasanaethau Stryd er mwyn mynd i’r afael â’r mater pwysig yma.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r gwaith a wnaed hyd yma a bod cyfleoedd i gynyddu bioamrywiaeth wrth reoli gwair ar ymylon ein ffyrdd a glaswelltiroedd amwynder yn cael eu hystyried; a
(b) Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r polisi torri glaswellt a chefnogi’r gostyngiad wedi ei dargedu yn y defnydd o blaladdwyr.
Awdur yr adroddiad: Katie Wilby
Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 23/03/2023
Dogfennau Atodol:
- Grass Cutting Policy – Managing Road Verges and Amenity Grasslands to Support Biodiversity PDF 124 KB
- Appendix 1 - Grass Cutting Policy – Managing Road Verges and Amenity Grasslands to Support Biodiversity PDF 251 KB
- Appendix 2 - Grass Cutting Policy – Managing Road Verges and Amenity Grasslands to Support Biodiversity PDF 83 KB
- Appendix 3 - Grass Cutting Policy – Managing Road Verges and Amenity Grasslands to Support Biodiversity PDF 18 MB