Manylion y penderfyniad

Capital Programme 2023/24 – 2025/26

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Capital Programme 2023/24 – 2025/26 for approval

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 i’w chymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor wedi'i rhannu'n dair adran:

 

  • Statudol/Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol;
  • Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes; a
  • Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel sydd wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:

 

  • strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor
  • rhaglen gyfredol 2022/23 - 2024/25
  • cyllid a ragwelir 2023/24 - 2025/26
  • statudol/rheoleiddiol - dyraniadau arfaethedig
  • asedau wedi’u cadw - dyraniadau arfaethedig
  • Adran fuddsoddi - dyraniadau arfaethedig
  • crynodeb rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol
  • cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol
  • crynodeb rhaglen gyfalaf
  • cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol

 

Y Cynghorydd Richard Jones yn cynnig gohirio’r eitem.  Nododd ei resymau a dywedodd yn ei farn ef y byddai’n annoeth cytuno i Raglen Gyfalaf tan fod y Cyfrif Refeniw wedi’i gydbwyso. Eiliodd y Cynghorydd Bernie Attridge hyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts yn erbyn y cynnig i ohirio a gofynnodd am gyngor gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Weithredwr ynghylch y flaenoriaeth i ystyried y Rhaglen Gyfalaf yn y cyfarfod. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson welliant i’r cynnig a wnaeth y Cynghorydd Richard Jones.  Cynigiodd y dylid mabwysiadu argymhellion 1 i 4 yn yr adroddiad.

 

Cafwyd pleidlais ar gynnig y Cynghorydd Richard Jones i’r eitem gael ei gohirio tan gyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol.  Roedd y cynnig yn aflwyddiannus yn dilyn pleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf yn unol â'r argymhellion yn yr adroddiad a siaradodd o blaid y Rhaglen Gyfalaf.  Eiliodd y Cynghorydd Christine Jones y cynnig.

 

Cododd y Cynghorydd Bernie Attridge gwestiynau ynghylch cyllid i fynd i’r afael â materion seiberddiogelwch, digartrefedd, a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Theatr Clwyd. Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i'r sylwadau a godwyd yn ymwneud â seiberddiogelwch.  Ymatebodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau i'r cwestiynau a godwyd ynghylch sicrhau cyllid ar gyfer Theatr Clwyd a rhoddodd eglurhad pellach ar y Rhaglen Gyfalaf.  Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad ynghylch cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y Rhaglen Gyfalaf a gofynnodd gwestiynau am adleoli Darpariaeth o ran Gwasanaethau Dydd Tri-ffordd (tudalennau 29 a 30 yn yr adroddiad).  Cyfeiriodd at y safle 10 erw ar gyrion yr Wyddgrug y cafodd ei nodi’n lleoliad newydd posibl a gofynnodd a oedd y safle’n berchen i’r Cyngor neu a oedd wedi’i brynu.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y wybodaeth bod Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn cyrraedd diwedd ei hyfywedd economaidd (tudalen 43, paragraff 1.54) a dywedodd bod rhai ysgolion yn Sir y Fflint yn h?n ac y dylen nhw gael eu hadolygu a’u hystyried yn y Rhaglen Gyfalaf. 

 

Gwnaeth y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau ymateb i’r sylwadau a chadarnhaodd bod y safle 10 erw yn yr Wyddgrug yn berchen i’r Cyngor. O ran yr ysgolion, cadarnhawyd bod ysgolion wedi cael buddsoddiad gan raglenni buddsoddi LlC (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a elwir erbyn hyn yn Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy), ynghyd â rhaglen Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cyfalaf y Cyngor, sydd wedi’i atgyfnerthu gan gyllid Cynnal a Chadw ac Atgyweirio ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a oedd yn benodol i ysgolion. Blaenoriaethwyd buddsoddiad ysgolion gan ddefnyddio gwybodaeth rheoli asedau a gedwir yn y portffolio Addysg ac Ieuenctid.  Hefyd, rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol – Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, y wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, a dywedodd fod y Rhaglen Gyfalaf bob amser yn cynnwys prosiectau arfaethedig nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn y cylch presennol ond sydd ar y gweill a chyfeiriodd at waith sydd wedi’i wneud i foderneiddio isadeiledd Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wrth ei drawsnewid yn ysbyty, a oedd yn welliant.

 

Mynegodd y Cynghorydd Glyn Banks bryder ynghylch cynnydd yng nghost Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl ac awgrymodd y dylid cynnal adolygiad brys o'r broses gaffael.  Ceisiodd gael eglurhad hefyd am y cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Theatr Clwyd.   Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol – Rhaglen Gyfalaf ac Asedau, ragor o wybodaeth am y cyfraniadau a wnaeth y Cyngor a LlC i Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd a dywedodd nad oedd angen rhagor o gyllid cyfalaf gan y Cyngor Sir.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a gododd y Cynghorydd Mike Peers ynghylch oed rhai adeiladau ysgolion, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod gan bob ysgol arolwg cyflwr adeilad ac yn sgil y canlyniad, gellid rhoi blaenoriaeth i ysgolion i’w hystyried ar gyfer buddsoddiad cyfalaf.

 

Gofynnwyd i Aelodau bleidleisio ar y cynnig i gymeradwyo’r argymhellion canlynol, y cafodd eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’u heilio gan y Cynghorydd Christine Jones.   Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r dyraniadau a'r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer

adrannau Asedau wedi’u cadw a Statudol/Rheoleiddiol yn Rhaglen Gyfalaf  

Cronfa’r Cyngor 2023/24 - 2025/26;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynlluniau wedi’u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.31) ar gyfer

yr adran ar fuddsoddi yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2023/24 -

2025/26;  

 

(c)        Nodi bod diffyg cyllid ar gyfer cynlluniau yn 2024/25 a 2025/26 yn Nhabl 5 (paragraff 1.37) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd dewisiadau yn cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydyn nhw ar gael), benthyca darbodus neu gynlluniau fesul cam yn cael eu hystyried yn ystod 2023/24 ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a

           

(d)       Cymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 (paragraff 1.41) ar gyfer yr adran sy’n cael ei hariannu’n benodol yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a fydd yn cael ei hariannu’n rhannol drwy fenthyca.

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: