Manylion y penderfyniad

Adoption of the Flintshire Local Development Plan (LDP).

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek Members approval for the adoption of the Flintshire Local Development Plan (LDP)

Penderfyniadau:

Cyn ystyried yr adroddiad, gadawodd y Cynghorydd David Healey a’r Cynghorydd Gladys Healey yr ystafell, gan fod y ddau wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu â Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint, .

 

Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi adroddiad i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau ar gyfer mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint (CDLl).  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Arolygwyr y CDLl wedi cwblhau eu trafodaethau a bod eu Hadroddiad Terfynol ar yr Archwiliad i Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint, dyddiedig 15 Rhagfyr 2022, wedi’i gyhoeddi.   Cafodd yr Adroddiad Terfynol a’i atodiadau eu cynnwys yn atodiad 1 yr adroddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau fel y nodir yn yr adroddiad a thalodd deyrnged i bawb a gymerodd ran am eu proffesiynoldeb, eu dycnwch a'u cydweithrediad wrth gynhyrchu'r CDLl.   I gloi, dywedodd y Prif Swyddog pe bai’r CDLl yn cael ei fabwysiadu y byddai’n rhoi sicrwydd i gymunedau yn Sir y Fflint ynghylch yr ardaloedd a’r amgylcheddau y byddai’n cael eu diogelu ac y byddai’n nodi nifer bychan o ardaloedd lle gallai datblygiad, mewn egwyddor, ddigwydd yn amodol ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.  Byddai'r CDLl yn rhoi'r polisïau perthnasol i'r Cyngor ar gyfer penderfynu ar ddatblygiadau arfaethedig. 

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth am y rhesymau cadarnhaol dros fabwysiadu’r CDLl a chyfeiriodd at y pwyntiau allweddol yn ymwneud ag Adroddiad yr Arolygydd.    Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

·         Adroddiad terfynol yr Arolygydd

·         y broses fabwysiadu

·         dyletswydd gyfreithiol

·         canlyniadau yn sgil peidio â mabwysiadu

·         ar ôl mabwysiadu

·         gohebiaeth ddiweddar

 

Gwnaeth y Prif Swyddog (Llywodraethu) dynnu sylw at y dyletswyddau cyfreithiol sydd wedi’u nodi ym mharagraff 1.13 yr adroddiad a chyfeiriodd at y dewisiadau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad naill ai i fabwysiadu'r polisi heb ei ddiwygio, neu ei wrthod yn ei gyfanrwydd.  Eglurodd y Prif Swyddog nad oedd unrhyw rym dan y Rheoliadau i fabwysiadu’r CDLl yn rhannol nac ei ddiwygio a rhoddodd gyngor ar oblygiadau'r dewisiadau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell o blaid y CDLl a chynigiodd yr argymhellion yn yr adroddiad.    Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes ei fod yn cefnogi’r CDLl yn llwyr ac eiliodd y cynnig.

 

Siaradodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson o blaid y CDLl ac anogodd Aelodau i gefnogi’r argymhellion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei fod yn cefnogi’r CDLl.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sam Swash yn erbyn mabwysiadu’r CDLl a dywedodd nad oedd trigolion Penarlâg/Ward Mancot yn cefnogi’r Cynllun.

 

Dywedodd y Cynhorydd Mike Peers bod y CDLl yn rhoi ‘sicrwydd’ a soniodd am y broblem o ran “datblygu hapfasnachol” yn Sir y Fflint.  Dywedodd ei fod yn cefnogi’r CDLl ar y cyfan.

 

Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown y byddai mabwysiadu’r CDLl yn cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol a soniodd am faterion yn ymwneud â llifogydd yn ei Ward hi, a diffyg isadeiledd ac ysgolion.  Anogodd yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y CDLl.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gillian Brockley nad oedd hi’n gallu cefnogi pob agwedd ar y CDLl ac ategodd y pryderon a fynegodd y Cynghorydd Brown ynghylch y mater yn ymwneud â llifogydd, yr angen am isadeiledd, tai fforddiadwy, ysgolion a diogelu mannau gwyrdd a bioamrywiaeth.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis na allai gefnogi’r CDLl a siaradodd am yr anawsterau y mae trigolion lleol wedi’u profi yn ei Ward hi o ganlyniad i ddatblygiadau diweddar.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ant Turton am y mater yn ymwneud â llifogydd a’r effaith ddinistriol a gaiff ar drigolion a’u cartrefi.

 

Wrth grynhoi, rhoddodd y Cynghorydd Chris Bithell sylw i’r pryderon a gododd yr Aelodau ynghylch “fforddiadwyedd”, lleoliad y safle, llifogydd, cludiant, ysgolion ac isadeiledd.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad a phleidleisio arnynt.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi, a chefnogodd nifer gofynnol o Aelodau hyn. 

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol ar gyfer yr argymhellion:

Bernie Attridge, Sean Bibby, Chris Bithell, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Steve Copple, Paul Cunningham, Rob Davies, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, Dave Hughes, Ray Hughes Alasdair Ibbotson, Paul Johnson, Christine Jones, Richard Jones, Simon Jones, Richard Lloyd,  Gina Maddison, Allan Marshall, Hilary McGuill, Billy Mullin, Debbie Owen, Ted Palmer, Andrew Parkhurst, Mike Peers, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Ian Roberts, Kevin Rush, Jason Shallcross, Linda Thew, Roy Wakelam, Arnold Woolley, ac Antony Wren.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn yr argymhellion:

Gillian Brockley, Helen Brown, David Coggins-Cogan, Bill Crease, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Carolyn Preece, David Richardson, Dan Rose, Dale Selvester, Sam Swash, Linda Thomas, ac Ant Turton.

 

Ymatalodd yr Aelodau canlynol:

Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Adele Davies-Cooke, Carol Ellis, Dave Mackie, a Roz Mansell

 

Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion canlynol eu derbyn.

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint (Fersiwn Terfynol yn Atodiad 2 – fel y'i diwygiwyd gan y newidiadau rhwymol sydd wedi’u nodi yn Adroddiad yr Arolygydd), fel y cynllun datblygu newydd ar gyfer ardal weinyddol Sir y Fflint;

 

(b)       Cymeradwyo'r Datganiad Mabwysiadu (Atodiad 3), yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Terfynol gan gynnwys yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (Atodiad 4), a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (Atodiad 5); a

 

(c)        Bod y Cyngor yn awdurdodi’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r

Economi) i wneud diwygiadau teipograffyddol, gramadegol, cyflwyniadol

neu ffeithiol sy’n weddill i Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint a’r dogfennau ategol

cyn ei gyhoeddi’n derfynol.

 

 

Cafodd y Cynghorydd David Healey a Gladys Healey eu gwahodd i ddychwelyd i’r cyfarfod a chawson nhw wybod bod yr argymhellion yn yr adroddiad wedi'u cymeradwyo ar ôl pleidlais wedi’i chofnodi.

 

Ar y pwynt hwn cymerodd y pwyllgor egwyl byr.

 

Awdur yr adroddiad: Andy Roberts

Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: