Manylion y penderfyniad
Treasury Management Strategy 2023/24, Treasury Management Policy Statement, Practices and Schedules 2023-2026, Treasury Management Quarter 3 Update 2022/23
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
(1) To present to Members the draft Treasury Management Strategy 2023/24 for comments and recommendations for approval to Cabinet (2) To provide an update on matters relating to the Council’s Treasury Management Policy, Strategy and Practices to the end December 2022.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2023/24 a dogfennau cysylltiedig i'w hadolygu a'u hargymell i'r Cabinet, ynghyd â diweddariad chwarterol ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2022/23 er gwybodaeth.
Adroddodd y swyddog nad oedd newidiadau sylweddol i’r strategaeth ac fe dynnodd sylw at feysydd allweddol ar y cyd-destun economaidd, sefyllfa trysorlys ddisgwyliedig y Cyngor gyda ffocws ar fenthyca a pharhad y strategaeth fuddsoddi. Adroddwyd ar y sefyllfa o ran buddsoddiadau ym mis Rhagfyr 2022 yn y diweddariad chwarterol ar gyfer 2022/23, ynghyd â phortffolios benthyca byrdymor a hirdymor.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, fe gynghorodd swyddogion er mai’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus oedd yr opsiwn benthyca o ddewis, roedd y posibilrwydd o gyflwyno Bondiau yn cael ei ystyried hefyd mewn cydweithrediad â chyngor gan Arlingclose. Cafodd ei egluro hefyd nad oedd disgwyl newidiadau pellach i strwythur y tîm wedi’i gynnwys yn yr Atodlenni Ymarfer.
Cytunodd Swyddogion i edrych ar awgrym y Parch Brian Harvey y dylai cyfeiriad at y Strategaeth Newid Hinsawdd gael ei gynnwys yn adran 1.03 o Ddatganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys, yn ogystal â hynny sydd wedi’i gynnwys yn barod yn y Strategaeth.
Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar gymal 3 o’r Cod Rheoli’r Trysorlys wedi’i gyfeirio ato yn y Canllaw Ymarferol i Bwyllgorau Archwilio’r Awdurdodau Lleol, cytunodd swyddogion i rannu ymateb ysgrifenedig i egluro rolau’r Pwyllgor a Cabinet i adrodd ar reoli’r trysorlys.
Cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a’r Cynghorydd Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl adolygu Strategaeth ddrafft Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24, a’r dogfennau amgaeedig, nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’w hadrodd i’r Cabinet ar 23 Chwefror 2023; a
(b) Nodi’r diweddariad chwarterol yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2022/23.
Awdur yr adroddiad: Louise Elford
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2023
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/01/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Accompanying Documents:
- Treasury Management 2023/24 Strategy and Q3 Update 2022/23 PDF 165 KB
- Enc. 1 - Draft TM Strategy 2023-24 PDF 500 KB
- Enc. 2 - Draft TM Policy Statement PDF 107 KB
- Enc. 3 - Draft TM Practices & Schedules part 1 PDF 158 KB
- Enc. 4 - Draft TM Practices & Schedules part 2 PDF 399 KB
- Enc. 5 - Investment portfolio as at 31-12-22 PDF 30 KB
- Enc. 6 - Long term borrowing as at 31-12-22 PDF 86 KB
- Enc. 7 - Short term borrowing as at 31-12-22 PDF 18 KB