Manylion y penderfyniad
Housing Rent Income and Welfare Response
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide an update on the impacts of welfare reforms and the work that is ongoing to mitigate them.
Penderfyniadau:
Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) ddiweddariad ar effaith ymateb y diwygiadau lles diweddaraf a’r lefelau presennol o ôl-ddyledion rhent tai yn 2022/23. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar yr effeithiau y mae diwygiadau lles yn parhau i’w cael ar breswylwyr a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi aelwydydd trwy’r argyfwng costau byw.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau ddiweddariad manwl ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran diwygio lles a lliniaru’r argyfwng costau byw, gan amlinellu ystod o fesurau a ddatblygwyd i helpu’r rhai yr effeithir gan gostau byw a’r cymorth a ddarperir i breswylwyr er mwyn helpu lliniaru’r effeithiau negyddol. Rhoddwyd diweddariad pellach ar yr holl feysydd canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad:-
- Cymhorthdal Ystafell Sbâr
- Uchafswm Budd-daliadau
- Cynllun Cymorth Costau Byw
- Gofalwyr Di-dâl
- Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
- Cymorth Lles
- Taliadau Dewisol Tai (DHP)
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael ddiweddariad manwl ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran ôl-ddyledion rhent, gan ddweud bod casglu rhent yn parhau’n heriol gyda’r cynnydd mewn costau byw a’r effaith ar allu rhai tenantiaid i dalu. Roedd llwyth gwaith y gwasanaeth Incwm Rhent wedi cynyddu, gyda chynnydd o 1.2% mewn achosion lle roedd angen cysylltu â thenantiaid, ac roedd y gwasanaeth yn parhau i gyfeirio tenantiaid trwy atgyfeiriadau at dimau arbenigol ar draws y Cyngor, gan gynnwys timau Cefnogi Pobl ac Ymateb Lles.
Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael sylw at y lefel bresennol o ôl-ddyledion rhent a’r nifer o achosion o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd yr her o gasglu rhent gan y tenantiaid sy’n derbyn credyd cynhwysol yn parhau’n risg i’r Cyngor, gyda mwy o denantiaid yn dechrau derbyn credyd cynhwysol a’r oedi a gafwyd wrth gyflwyno trefniant rheoli taliadau i rai tenantiaid, lle mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu taliadau rhent fel ffynhonnell.
Fel rhan o ymateb parhaus y Cyngor i liniaru’r effeithiau ar denantiaid a sicrhau sefydlogrwydd ariannol hirdymor y Cyfrif Refeniw Tai, yn 2021 cynhaliodd Archwilio Cymru adolygiad cynhwysfawr er mwyn asesu effeithlonrwydd y Cyngor o ran cefnogi tenantiaid. Roedd adolygiad Archwilio Cymru yn cydnabod y mesurau rhagweithiol mae’r Cyngor eisoes wedi eu cymryd i gefnogi tenantiaid a sefydlogi casgliadau rhent yn ystod cyfnod o newid nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, yn enwedig wrth gyflwyno’r Credyd Cynhwysol ac effeithiau diweddar y pandemig.
Diolchodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin i’r swyddogion am yr adroddiad a chroesawodd mai dim ond 1 achos o droi allan a gafwyd, ac roedd o’r farn fod hyn wedi osgoi rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth digartrefedd. Cyfeiriodd at y tabl yn dangos band yr ôl-ddyledion ar gyfer 2022/23, gan wneud sylwadau ar y gwahanol lefelau o rent a dalwyd gan denantiaid, a gofynnodd a oedd modd nodi’r lefelau rhent o fewn y tabl mewn adroddiadau yn y dyfodol. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i edrych a fyddai modd darparu hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Diolchodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson i swyddogion am yr adroddiad a oedd, yn ei farn ef, yn darparu’r wybodaeth gywir a chyfredol sydd ar gael. Mewn perthynas â’r duedd gynyddol mewn ôl-ddyledion rhent, gofynnodd a oedd y Rheolwr Gwasanaeth yn disgwyl i hyn ostwng erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael bod disgwyl i’r ôl-ddyledion rhent ostwng erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ond cyfeiriodd at effeithiau’r pandemig a’r angen i sicrhau bod yr ôl-ddyledion yn parhau’n sefydlog.
Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon yngl?n â’r lefel bresennol o ôl-ddyledion rhent, nad oedd dan reolaeth yn ei farn ef, gan dynnu sylw at sefyllfaoedd blaenorol lle’r oedd Aelodau wedi mynegi pryder sylweddol wrth i ôl-ddyledion rhent gynyddu i £1 miliwn. Nid oedd yn credu y dylid dathlu 1 achos o droi allan, gan ei fod o’r farn y gellid darparu’r eiddo hynny i denantiaid sy’n fodlon talu eu rhent a byddai hyn yn lleihau’r ôl-ddyledion rhent ac o fudd i’r Cyfrif Refeniw Tai. Gofynnodd faint o swyddogion oedd yn rhan o’r Tîm Cynyddu Incwm, a sefydlwyd ar gyfer rhyddhau amser Swyddogion Tai. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael a’r Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau bod 7 swyddog yn y tîm casglu rhent a 5 swyddog yn y tîm diwygiadau lles cynyddu incwm.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Attridge ynghylch cymharu ôl-ddyledion rhent â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Lleol eraill, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i edrych ar ba ddata meincnodi y gellir ei ddarparu mewn adroddiadau yn y dyfodol. Efallai y bydd yn rhaid i’r wybodaeth fod yn ddienw.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael ddarparu gwybodaeth yngl?n â’r nifer o achosion sy’n aros i fynd yn ôl i’r llys i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Evans sylw ar y 454 aelwyd yn Sir y Fflint a oedd yn derbyn gostyngiad yn eu taliadau budd-dal tai oherwydd y Dreth Ystafelloedd Gwely, a gofynnodd faint o’r aelwydydd hyn oedd mewn ôl-ddyledion rhent. Gofynnodd hefyd faint o’r tenantiaid hyn oedd wedi’u troi allan ac yna’u hail-gartrefu gan y Cyngor ac wedi mynd i ôl-ddyledion eto. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau ddarparu gwybodaeth ar gais yngl?n â thenantiaid a effeithiwyd gan y Dreth Ystafelloedd Gwely yn dilyn y cyfarfod. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael nad oedd yn ymwybodol o denantiaid gyda’r Cyngor a aeth i ôl-ddyledion eto ar ôl cael eu troi allan, ond gellid adolygu’r data hwn.
Gwnaeth y Cynghorydd Dale Selvester sylw am y newidiadau ynghylch sut mae tenantiaid yn gwneud taliadau d?r a charthffosiaeth a gofynnodd a oedd swyddogion yn credu y byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar ôl-ddyledion rhent, wrth i denantiaid dalu ffioedd yn uniongyrchol i D?r Cymru o fis Ebrill 2023. Gofynnodd hefyd a fyddai tenantiaid sy’n cael eu heffeithio gan y Dreth Ystafelloedd Gwely yn cael eu hannog i symud i eiddo llai. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael mai nifer fechan iawn o Awdurdodau Lleol ar draws Cymru sy’n casglu cyfraddau d?r ar ran D?r Cymru. Roedd yn credu y byddai’r newidiadau’n cael effaith gadarnhaol ar y Cyngor ac y byddai’n gynnig gwell i denantiaid. Dywedodd hefyd fod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau y rhoddir gwybod i D?r Cymru am eiddo gwag. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau fod tenantiaid yn cael eu hannog i symud i eiddo llai os ydyn nhw’n cael eu heffeithio gan y Dreth Ystafelloedd Gwely, ond yn anffodus roedd prinder eiddo llai ar gael ar draws Sir y Fflint.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd dangos canran yr ôl-ddyledion sy’n ymwneud â thaliadau d?r mewn adroddiadau yn y dyfodol. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i edrych a fyddai’n bosibl dangos pa rai oedd yn ôl-ddyledion rhent a’r canran o daliadau d?r gweddilliol mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Diolchodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio i’r swyddogion am yr adroddiad ac i Aelodau’r Pwyllgor am eu sylwadau a’u cwestiynau. Cyfeiriodd at y wybodaeth a dderbyniodd y Cyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yngl?n â thenantiaid sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac awgrymodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn cynorthwyo’r Cyngor â chael y wybodaeth hon yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, yn ogystal â’r argymhelliad ychwanegol canlynol, eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Evans:-
- Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau i geisio eu cytundeb i rannu gwybodaeth â’r Awdurdod Lleol ynghylch pa denantiaid sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, fel bod modd darparu cefnogaeth/cymorth priodol i unrhyw denantiaid sy’n mynd i ôl-ddyledion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi sefyllfa ddiweddaraf casgliadau ôl-ddyledion rhent yn 2022/23;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith mae diwygiadau lles yn ei gael ac a fydd yn parhau i’w gael ar rai o’r tenantiaid mwyaf diamddiffyn, yn ogystal â chyflwyno cefnogaeth trwy fesurau cefnogi Llywodraeth Cymru er mwyn lliniaru’r argyfwng costau byw; a
(C) Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau i geisio eu cytundeb i rannu gwybodaeth â’r Awdurdod Lleol ynghylch pa denantiaid sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, fel bod modd darparu cefnogaeth/cymorth priodol i unrhyw denantiaid sy’n mynd i ôl-ddyledion.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 11/01/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Accompanying Documents: