Manylion y penderfyniad
Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the proposed Housing Revenue
Account (HRA) Budget for 2023/24 and the HRA Business
Plan.
Penderfyniadau:
Rhoddodd y Prif Gyfrifydd gyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-
· Sut rydym yn cymharu ag awdurdodau eraill sy'n dal stoc.
· Gwerth am Arian
· Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru
· Modelu Incwm.
· Chwyddiant Rhent Arfaethedig o 5% i bob tenant.
· Effaith Codiad Rhent a garejys.
· Effaith gosod rhenti yn is na'r hyn a ganiateir
· Taliadau gwasanaeth
· Pwysau Afreolus
· Pwysau rheoledig wedi'u cynnwys yn y cynllun gwasanaeth
· Yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd
· Benthyca darbodus a thalu'n ôl dros 50 mlynedd
· Lefel y gronfa wrth gefn arfaethedig o 7%
Mynegodd y Cynghorwyr Rosetta Dolphin a Bernie Attridge eu pryderon bod cronfeydd wrth gefn yn cael eu pennu ar 7% pan oedd y cyfartaledd yn 3%.
Ychwanegodd y Prif Gyfrifydd ei bod yn ofyniad cyfreithiol iddynt gadw cronfeydd wrth gefn ar 3%, ond eu bod wedi’u pennu ar 7% i ddiogelu’r cyngor rhag pwysau o ran costau yn y dyfodol, h.y. dyfarniadau cyflog.
Gan ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Attridge, cytunodd y Cynghorydd Sean Bibby, yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio, y gellid ystyried, yn ystod y flwyddyn, defnyddio unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd ar gael er mwyn defnyddio eiddo gwag ychwanegol ledled Sir y Fflint.
Cynigiwyd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ynghyd ag argymhelliad ychwanegol i ofyn i'r Cabinet ystyried defnyddio'r arian wrth gefn sydd ar gael yn ystod y flwyddyn os yw’n bosibl, gan y Cynghorydd Bernie Attridge a'i eilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai a'r gyllideb ar gyfer 2023/24, fel y nodir yn yr adroddiad a'r atodiadau; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell i'r Cabinet y dylid ystyried, yn ystod y flwyddyn, defnyddio unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd ar gael er mwyn defnyddio eiddo gwag ychwanegol ledled Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/12/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol:
- Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan PDF 117 KB
- Appendix A – Summary HRA Rent Charges 2023/24 PDF 72 KB
- Appendix B – Draft 30 Year HRA Financial Business Plan Summary PDF 104 KB
- Appendix C – Draft Capital Programme 2023/24 PDF 49 KB
- Appendix D – Draft Pressures and Efficiencies 2023/24 PDF 61 KB