Manylion y penderfyniad
Declaration and Disposal of Land Surplus to Requirements
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gytuno ar fân newidiadau i'r Cyfansoddiad ynghylch sut y byddai tir yn cael ei nodi’n dir nad oes ei angen. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd nad oedd y broses ar gyfer nodi a gwaredu tir nad oes ei angen ar y Cyngor wedi’i gofnodi ar hyn o bryd a chynigiwyd cynnwys y broses yn y Cyfansoddiad er mwyn gwella tryloywder ac eglurder.
Cododd y Cynghorydd Mike Peers nifer o gwestiynau ynghylch awdurdod dirprwyedig, aelodaeth o Fwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf, tir ac eiddo nad oes eu hangen, a'r cyfeiriad at adroddiad dirprwyedig yn adran 1.03 yr adroddiad. Siaradodd y Cynghorydd Peers am yr angen i sicrhau bod ‘gwerth gorau’ yn cael ei sicrhau ar gyfer gwerthu tir/eiddo a chynigiodd bod cyfeiriad at hyn yn cael ei gynnwys yn y Cyfansoddiad. Eiliodd y Cynghorydd Arnold Woolley y cynnig.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at adran 1.04 yn yr adroddiad a dywedodd fod proses gofnodi ar wahân i awdurdodi gwerthu darn penodol o dir a oedd yn seiliedig ar werth y tir a rhoddodd drosolwg o'r broses waredu. Cadarnhaodd bod Aelodau eisoes yn rhan o'r broses werthu. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers cadarnhaodd y Prif Swyddog y cafwyd prisiad annibynnol ar y bwriad i werthu tir.
Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Peers ynghylch ‘gwerth gorau’, dywedodd y Prif Swyddog fod hwn yn rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor na allai gael gwared ar dir sy’n llai na gwerth marchnad teg gan eithrio rhai amgylchiadau. Cytunodd y Prif Swyddog gynnwys cyfeirio at yr angen i gael ‘ystyriaeth orau’ i’r ddirprwyaeth bresennol i Swyddogion ynghylch gwerthu tir.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith, eglurodd y Prif Swyddog bod yn rhaid ymgynghori â'r Aelod(au) lleol ar werthu unrhyw dir yn eu Ward.
Gofynnodd y Cynghorydd David Healey pa gamau fyddai'n cael eu dilyn pe bai Corff Llywodraethu Ysgol yn anghytuno â'r posibilrwydd o werthu tir ar ystâd ysgol. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai trafodaethau'n digwydd â phawb sydd ynghlwm mewn amgylchiadau o'r fath. Dywedodd y Prif Swyddog, pe bai Ysgol yn anghytuno â’r posibilrwydd o werthu darn penodol o dir, dylai'r penderfyniad ynghylch a oedd y tir yn cael ei ddatgan yn 'warged' fod yn destun adroddiad dirprwyedig ac amlinellodd y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer adroddiadau dirprwyedig.
Cynigwyd yr argymhelliion canlynol gan y Cynghorydd David Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y broses arfaethedig ar gyfer nodi a gwaredu tir
nad oes ei angen bellach yn cael ei gynnwys yn y Cyfansoddiad;
(b) Cynnwys cyfeiriad at yr angen i gael ‘ystyriaeth orau’ i’r ddirprwyaeth bresennol i Swyddogion ynghylch gwerthu tir; a
(c) Pe bai Ysgol yn anghytuno â’r posibilrwydd o werthu darn penodol o dir, dylai'r penderfyniad ynghylch a oedd y tir yn cael ei ddatgan yn 'warged' fod yn destun adroddiad dirprwyedig
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 06/01/2023
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Dogfennau Atodol: