Manylion y penderfyniad
Recruitment of a Town and Community Council Representative to the Standards Committee
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To appoint the favoured candidate to the
Standards Committee
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod pob Cyngor wedi cael gwahoddiad i enwebu ymgeiswyr. Enwebwyd chwech ac fe wnaeth pob un baratoi portread ysgrifenedig, a anfonwyd at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned. Gofynnwyd i’r Cynghorau ddewis eu hymgeisydd oedd yn ddewis 1af. Byddai’r ymgeisydd oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau fel dewis 1af yn cael ei ddewis. Pe bai hi’n gyfartal, gofynnwyd iddynt hefyd enwebu’r ymgeisydd oedd yn 2il ddewis ganddynt, a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddewis o blith unrhyw ymgeiswyr oedd â’r un nifer o bleidleisiau fel dewis 1af. Enillodd y Cynghorydd Ian Papworth, Cyngor Cymuned Trelawnyd a Gwaunysgor, fwyafrif clir o bleidleisiau dewis 1af ac 2il ddewis.
Cynigiodd y Cynghorydd Billy Mullin yr argymhellion yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Helen Brown.
PENDERFYNWYD:
(a) Diolch i’r ymgeiswyr am eu diddordeb; a
(b) Phenodi’r Cynghorydd Ian Papworth yn gynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau tan yr etholiadau ym mis Mai 2027.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 11/04/2023
Dyddiad y penderfyniad: 18/10/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/10/2022 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: