Manylion y penderfyniad
National Collaborative Arrangements for Welsh (local authority) Adoption and Fostering services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To seek agreement to sign the Joint Committee
Agreement for the proposed Joint Committee
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i geisio cytundeb i arwyddo’r Cytundeb Cydbwyllgor ar gyfer y Cydbwyllgor arfaethedig. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun, a dweud bod y Cytundeb yn egluro rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cynnal a chyflawni swyddogaethau cenedlaethol a oedd yn cynorthwyo a galluogi’r awdurdod lleol i gyflawni cyfrifoldebau mabwysiadu a maethu. Atodwyd copi o’r Cytundeb Cydbwyllgor i’r adroddiad.
Wrth ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Richard Jones, cytunodd y Prif Swyddog fod gofalwyr sy’n berthnasau yn rhan annatod o wasanaethau maethu’r Cyngor, a’u bod yn cael eu cefnogi’n llawn fel aelodau o’r teulu.
Wrth gynnig yr argymhellion yn yr adroddiad, diolchodd y Cynghorydd Bernie Attridge i Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith a’u hymroddiad i ddarparu gwasanaethau mabwysiadu a maethu. Eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Christine Jones.
Talodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Ian Roberts a’r Cynghorydd Paul Cunningham deyrnged i wasanaeth mabwysiadu a maethu’r Cyngor a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r trefniadau llywodraethu newydd a sefydlwyd drwy’r
Cytundeb Cydbwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu
Cenedlaethol a Maethu Cymru; a
(b) Bod adroddiad blynyddol am y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a darpariaeth gwasanaethau rhanbarthol a lleol, yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel rhan o oruchwyliaeth llywodraeth leol.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2023
Dyddiad y penderfyniad: 24/05/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/05/2022 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol:
- National Collaborative Arrangements for Welsh (local authority) Adoption and Fostering services PDF 112 KB
- Enc. 1 for National Collaborative Arrangements for Welsh (local authority) Adoption and Fostering services PDF 113 KB
- Enc. 2 for National Collaborative Arrangements for Welsh (local authority) Adoption and Fostering services PDF 78 KB
- Enc. 3 for National Collaborative Arrangements for Welsh (local authority) Adoption and Fostering services PDF 330 KB