Manylion y penderfyniad
Treasury Management Annual Report 2021/22 and Treasury Management Update Q1 2022/23
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
1. To present to Members the draft Treasury Management Annual Report 2021/22 for comments and recommendation for approval to Cabinet.
2. To provide an update on matters relating to the Council’s Treasury Management Policy, Strategy and Practices to the end June 2022.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys 2021/22 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. Rhannwyd diweddariad Chwarter 1 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli'r Trysorlys 2022/23 er gwybodaeth, ynghyd â'r cylch adrodd. Yn unol a’r broses arferol, byddai sesiwn hyfforddi ar gyfer yr holl aelodau’n cael ei threfnu ar gyfer mis Rhagfyr 2022 cyn cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24
Rhoddwyd trosolwg o adrannau allweddol yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys effaith materion economaidd yn ystod y cyfnod. Roedd y diweddariad chwarterol cyntaf ar gyfer 2022/23 yn rhoi’r wybodaeth diweddaraf am fuddsoddiadau ac ni chafwyd unrhyw adroddiadau am doriadau i’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.
Croesawodd Allan Rainford yr ymdriniaeth o ran lleihau risg ar fuddsoddiadau a chafwyd gwybodaeth ar y strategaeth fuddsoddi a oedd yn blaenoriaethu hylifedd a diogelwch wrth arallgyfeirio a lledaenu risg, ar y cyd â chyngor gan Arlingclose.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd bod Cynghorau eraill ar draws Cymru yn ymdrin â rheoli’r trysorlys mewn ffordd debyg gan ganolbwyntio ar fenthyca tymor byr.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Attridge ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Adroddiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol drafft 2020/21, heb unrhyw faterion i’w dwyn i sylw’r Cabinet ym mis Medi; a
(b) Nodi diweddariad chwarter cyntaf Rheoli’r Trysorlys 2022/23.
Awdur yr adroddiad: Louise Elford
Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 27/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/07/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Accompanying Documents:
- Treasury Management Annual Report 2021/22 and Treasury Management Update Q1 2022/23 PDF 120 KB
- Enc. 1 - TM reporting cycle 2022-23 PDF 8 KB
- Enc. 2 - Draft TM Annual Report 2021-22 PDF 170 KB
- Enc. 3 - Investment portfolio as at 30-06-22 PDF 27 KB
- Enc. 4 - Long term borrowing as at 30-06-22 PDF 139 KB
- Enc. 5 - Short term borrowing as at 30-06-22 PDF 14 KB