Manylion y penderfyniad

Draft Statement of Licensing Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Penderfyniadau:

Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu, wrth gyflwyno’r adroddiad, fod Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu’r Datganiad Polisi Trwyddedu bob 5 mlynedd.  Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2015.   Roedd y Polisi Drafft ar gyfer 2021–2026 wedi’i atodi, a oedd yn cynnwys ymatebion yn dilyn cyfnod ymgynghori. Byddai’r ddogfen hon, ar ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ei chymeradwyo, wedyn yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn i gael ei chymeradwyo’n derfynol.

 

            Cynhaliwyd adolygiad trylwyr gyda swyddogion o Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru, gan roi ystyriaeth i unrhyw newidiadau perthnasol mewn deddfwriaeth, canllawiau ac arferion da a oedd yn galluogi cysondeb ar draws y rhanbarth lle bo modd.  Eglurodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y chwe sir yng Ngogledd Cymru i gyd yn wahanol ond roedd y Polisïau Trwyddedu ar yr un fformat a gallent gael eu haddasu i ddiwallu anghenion pob Awdurdod Lleol.   Roedd y Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2021 a Rhagfyr 2026 i’w weld yn Atodiad A, gyda’r newidiadau gwreiddiol cyn ymgynghori i’w gweld yn goch a newidiadau ar ôl yr ymgynghoriad mewn glas.  Rhoddodd wedyn grynodeb o’r newidiadau roedd hi wedi’u gwneud.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wedyn at y broses ymgynghori a chadarnhaodd fod y broses ymgynghori gywir wedi’i dilyn.  Roedd dau ymateb wedi’u derbyn gan gynrychiolydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynrychiolydd i Ddeiliaid Trwydded Eiddo.  Roedd manylion yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac ystyriaeth yr Awdurdod Trwyddedu i’r ymatebion hynny i’w gweld yn Atodiad B.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd yr Aelodau at y Datganiad Polisi Trwyddedu ac aeth drwy’r ddogfen fesul tudalen, yn gofyn a oedd gan yr Aelodau unrhyw gwestiynau penodol.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Lloyd at bwynt 3.4 yn yr amcanion Trwyddedu a oedd yn cyfeirio at ddarparu cyfarpar cymorth cyntaf ac ystafelloedd cymorth cyntaf mewn lleoliadau mwy a gofynnodd a ddylid ei gwneud yn orfodol bod peiriannau diffibrilwyr ar gael, yn hytrach nag fel ystyriaeth.  Yn ateb, cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod hyn wedi’i amlygu’n las gan ei fod wedi’i newid yn dilyn sylw gan gynrychiolydd i eiddo trwyddedig.  Teimlai’r cynrychiolydd ei fod yn ormod i’w ofyn. Er bod diffibrilwyr yn y gymuned, dim ond un clwb nos oedd gan Sir y Fflint.  Cadarnhaodd mai ond trwyddedau newydd y byddai’r polisi’n ei effeithio, nid rhai sy’n bod eisoes, gan eu bod nhw wedi’u rhwymo gan y polisïau trwyddedu a oedd mewn grym wrth ymgeisio.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Small, cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu nad oedd unrhyw newidiadau’n cael eu cynnig i’r broses rhybuddion am ddigwyddiadau dros dro.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd White yngl?n â’r amserlen ymgynghori, rhoddodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu drosolwg o’r broses.  Eglurodd fod y cyfnod wedi’i estyn er mwyn caniatáu rhagor o amser i alluogi’r cynrychiolwyr hynny a oedd yn cau i lawr am gyfnod bob blwyddyn ym mis Awst i ymateb.  Pan anfonwyd y ddogfen, roedd y newidiadau wedi’u hamlygu mewn coch i’w gwneud yn haws i’r rhai oedd yn ymateb.

 

            Aeth Rheolwr y Tîm Trwyddedu ymlaen wedyn i fynd drwy’r sylwadau a dderbyniwyd gan bob Ymatebydd ar ôl yr ymgynghoriad, a oedd i’w gweld yn Atodiad B ar y rhaglen.

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Sylw 1

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu, er nad oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n awdurdod â chyfrifoldeb am drwyddedu, fod holl awdurdodau Gogledd Cymru’n credu ei bod yn bwysig eu cynnwys oherwydd y gydberthynas rhwng gweithgarwch alcohol ac iechyd y cyhoedd.  Fe wnaeth wedyn adrodd ar yr ymateb data a oedd yn berthnasol i Sir y Fflint a chadarnhaodd y byddai strategaeth ‘Galw Amser Newid’ Betsi Cadwaladr yn cael ei chynnwys fel cyfeiriad ym mharagraff 3.43.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y data a’r ffigwr bod 21% o oedolion yn Sir y Fflint yn yfed mwy na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Atebodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu gan ddweud nad oedd wedi’i gyfyngu i Sir y Fflint – roedd canran a oedd yn yfed mwy ledled y DU.  Roedd mesurau lliniaru ar waith yn y polisi i gynorthwyo deiliaid trwydded eiddo.

 

Cynrychiolydd Deiliaid Trwydded Eiddo

 

Sylw 2

 

            Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod rhai o’r sylwadau’n cyfeirio at y Polisi a rhai’n sylwadau cyffredinol.

 

            Cyfeiriodd at y pwynt “including links to the other policies would be helpful for parties looking at either coming into the area or making substantial changes to existing licensed premises”.  Pan ystyriwyd hyn, dywedodd fod cyfeiriad yn flaenorol at y Cynllun Datblygu Unedol, a dynnwyd pan ddaeth hwnnw i ben.  Ychwanegodd nad oedd unrhyw gyfeiriad at y Cynllun Datblygu Lleol wedi’i gynnwys a chadarnhaodd fod hwn wedi’i gynnwys yn 2.3 fel dogfen gyfeirio.

 

            Cyfeiriodd wedyn at eu hail bwynt, “to mitigate the impact their premises may have on the health and wellbeing of their customers, their neighbourhood and wider community”.  Teimlai’r Awdurdod Trwyddedu fod cynnwys gwybodaeth am Iechyd y Cyhoedd yn berthnasol i’r polisi.  Disgwyliadau oedd y rhain, nid gorchmynion, gyda chais am ystyried yr effeithiau lliniaru wrth wneud ceisiadau am drwyddedau. Ni ystyrid unrhyw newid ar gyfer y rhan honno o’r polisi.

 

Sylw 3

 

Roedd y sylw hwn yn mynegi pryder bod eiddo trwyddedig weithiau, yn annheg, yn gorfod gweithredu yn ôl safon uwch nag eiddo cyhoeddus arall mewn perthynas ag atal trosedd ac anhrefn.  Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu bod yr Heddlu wedi’u henwi yn Neddf Trwyddedu 2003 fel awdurdod cyfrifol ac na ddylai’r Polisi eu hatal nhw rhag darparu gwybodaeth neu wneud sylwadau.  Ni fyddai yn ysbryd Deddf Trwyddedu 2003 i gyfyngu ar yr Heddlu.  Rôl yr Awdurdod Trwyddedu oedd sicrhau bod pob sylw a wnaed gan ba bynnag awdurdod cyfrifol neu aelod o’r cyhoedd yn berthnasol i’r amcanion trwyddedu. Nid oedd cynnig i wneud unrhyw newidiadau i’r polisi.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Lloyd at y cyfarfodydd Gwylio Tafarndai cadarnhaol a drefnwyd gan ddeiliaid trwydded yn ei ardal o.  Roedd yr Heddlu’n dod i’r cyfarfodydd hyn ac yn rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu amhariadau a godwyd gan drigolion i’r gr?p i’w trafod a’u datrys.  Ychwanegodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod gan Swyddogion Sir y Fflint hefyd rôl weithredol mewn cyfarfodydd Gwylio Tafarndai a’u bod yn darparu cefnogaeth i grwpiau, gan sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar bopeth roeddent ei angen gan yr awdurdod.

 

Sylw 4

           

Sylw cyffredinol oedd hwn, yn ymwneud â chamerâu TCC a GDPR.   Darllenodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu ymateb yr Awdurdod a chadarnhaodd nad oedd bwriad i wneud unrhyw newidiadau i’r polisi ynghlwm â hyn.

 

Sylw 5

           

Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y sylw hwn yn ymwneud â pharagraff 3.4 a’r math o eiddo lle gallai cyffuriau fod yn broblem, fel clybiau nos, o gymharu â thafarndai a bwytai lleol yn y gymuned.  Gan gyfeirio at sylwadau’r Cynghorydd Lloyd am ddiffibrilwyr, dywedodd na allai’r Polisi Trwyddedu fynnu bod safleoedd yn gosod rhai, dim ond gofyn i hynny gael ei ystyried, oni bai ei fod yn cael ei wneud yn amod ar y Drwydded gan un o’r awdurdodau cyfrifol.  Roedd y newidiadau i’w gweld mewn glas ym mharagraff 3.2.

 

            Cytunai’r Cadeirydd gyda newid arfaethedig Rheolwr y Tîm Trwyddedu a chyfeiriodd at y bocsys casglu a oedd i’w gweld mewn tafarndai a chlybiau’n codi arian i osod diffibrilwyr.  Yn hytrach na gosod amod neu rwymedigaeth ar eiddo trwyddedig, neu yn wir ar bob lleoliad arall, a ddylid eu hannog i gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian er mwyn gallu gosod diffibrilwyr?   Dywedodd y gallai hyn fod yn amod ar y Cais Cynllunio ar gyfer eiddo busnes ac y gellid anfon sylwadau at bwyllgorau eraill yn gofyn iddynt annog eiddo busnes i fynd ati i osod rhai.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Lloyd a dywedodd y gallent fod o fudd i’r gymuned pan fyddai’r eiddo ar gau pe baent yn cael eu gosod ar du allan yr adeilad.

 

            Gofynnodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu am gadarnhad bod y pwyllgor yn fodlon â’r geiriad a oedd wedi’i ddarparu.   Cadarnhaodd hefyd y byddai’n gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth ystyried ceisiadau, lle bo hynny’n briodol, a fyddent yn dymuno ystyried amod trwydded i osod diffibriliwr ar sail achosion unigol.  Cytunwyd ar hyn.

           

            Cytunodd y Cynghorydd Lloyd gyda’r cynnig hwn a dywedodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn darparu cyllid i osod diffibrilwyr yn y gymuned.

 

Sylw 6

           

Roedd y sylw hwn yn ymwneud â niwsans cyhoeddus a darllenodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu’r sylw a wnaed.  Cadarnhaodd fod y Ddeddf Trwyddedu’n enwebu’r Adain Iechyd yr Amgylchedd fel awdurdod cyfrifol a bod niwsans cyhoeddus yn amcan trwyddedu.  Roedd y wybodaeth a oedd wedi’i darparu o fewn y polisi’n ddigonol ac nid oedd bwriad gwneud unrhyw newid.

 

Sylw 7

           

Roedd y sylw hwn yn ymwneud ag Iechyd Cyhoeddus ac nad oedd yn amcan trwyddedu a darllenodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu’r sylw a wnaed.   Cadarnhaodd fod y gair “yet” wedi’i dynnu o’r frawddeg “Concern expressed that the policy refers to public health ‘not yet’ being a licensing objective in paragraph 3.43.”O ran data Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid dylanwadu ar y broses benderfynu oedd ei ddiben. Roedd wedi’i gynnwys i ddarpar ddeiliaid trwydded ystyried y data oedd ar gael yn eu polisi gweithredu.

 

Sylw 8

           

Roedd y pwynt hwn yn cyfeirio at gyflwyno polisïau effaith gronnol.  Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu nad oedd unrhyw gynlluniau i gyflwyno’r polisi hwn ar hyn o bryd.

 

 

Sylw 9

           

Cais oedd hwn i gynnwys gwybodaeth am yr Egwyddor Asiant Newid.   Roedd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr warchod yn erbyn niwsans s?n a allai ddeillio o eiddo trwyddedig presennol.   Cytunai’r Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod yr egwyddor yn berthnasol ac roedd hyn wedi’i gynnwys ym mharagraff 5.7.  Cyfrifoldeb y datblygwyr ac nid yr eiddo presennol oedd hyn.

 

Sylw 10

           

Roedd y sylw’n gofyn am fwy o eglurhad yngl?n â’r hyn a fyddai’n cael ei gyfrif ym fân amrywiad.  Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y ddeddfwriaeth yn nodi beth roedd hyn yn ei gynnwys a bod y wybodaeth roedd yr awdurdod wedi’i darparu’n ddigonol yn hyn o beth.  Ni chynigiwyd unrhyw newid i hyn.

 

Sylw 11

           

Roedd y sylw hwn yn awgrymu y dylid cynnwys dolenni i God Cydymffurfio’r Rheoleiddiwr a Pholisi Gorfodi’r Cyngor.  Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod paragraff 2 eisoes yn cyfeirio at y Polisi Gorfodi ac nad oedd angen unrhyw newid arall.

 

Sylw 12

           

Roedd y sylw hwn yn awgrymu y dylid cynnwys rhestr gyfredol o awdurdodau cyfrifol yn y polisi.  Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y wybodaeth hon eisoes yn cael ei darparu ar gais a chyda phob cais newydd.  Nid oedd bwriad i gynnwys hyn.

 

Sylw 13

           

Cyfeiriai’r sylw hwn at fyrddau a chadeiriau y tu allan i eiddo, yn cynnwys ardaloedd gardd, ac roedd yn gofyn am eglurhad yngl?n â gwerthiant ar ac oddi ar y safle. Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod byrddau a chadeiriau ar y briffordd yn dod o dan gylch gorchwyl Gwasanaethau Stryd.  Cadarnhaodd fod gan bob eiddo wahanol ofynion o ran ardaloedd allanol eu heiddo, a fyddai’n cael eu cynnwys yn amodau cynllun a chyfyngiadau eu trwydded.  Nid oedd angen unrhyw newid i’r polisi.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd White at leoliad byrddau a chadeiriau y tu allan i eiddo a gofynnodd a fu cynnydd yn y ceisiadau am y rhain yn ystod y pandemig a’r cyfnod adfer.  Mewn ymateb, cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod rheolau wedi'u llacio dros dro mewn perthynas â mannau allanol eiddo.  Cyn belled nad oedd unrhyw werthiant awyr agored neu adloniant rheoledig, nid oedd hyn yn broblem.  Nid oedd problemau oni bai fod ceisiadau am far y tu allan os nad oedd y rhain wedi’u cynnwys ar eu cynllun o’r eiddo.  Dywedodd fod Rheoli Llygredd bellach ynghlwm oherwydd bod problem â lleisiau uwch.  Roedd trigolion wedi bod yn amyneddgar yn ystod y pandemig a’r cyfnod adfer, ond ers codi’r cyfyngiadau, roedd yr awdurdod wedi derbyn mwy o alwadau am hyn.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Lloyd fod yr ardaloedd â tho uwch eu pen yn fwy o fater cynllunio na mater trwyddedu.  Dywedodd fod ceisiadau wedi’u derbyn gan y Pwyllgor Cynllunio i’r ardaloedd dros dro hynny gael eu troi’n rhai parhaol ond bod y rhain yn ardaloedd a allai greu niwsans.   Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod LlC wedi cyflwyno canllawiau i adrannau Cynllunio’n awgrymu parhau â’r rheolau wedi’u llacio ar gyfer strwythurau dros dro â chaniatâd tan fis Ionawr 2022 i alluogi’r sector i gael ei gefn ato.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Martin White a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod yr Aelodau wedi ystyried ac yn cymeradwyo’r newidiadau a wnaed i’r Polisi Drafft yn dilyn cyfnod ymgynghori; a

 

(b)     Bod Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu’n cymeradwyo’r Polisi Drafft yn barod at ei gymeradwyo’n derfynol yn y Cyngor Llawn.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 02/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 06/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/10/2021 - Pwyllgor Trwyddedu

Dogfennau Atodol: