Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Interim)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
This report provides known key risks and
issues to the revenue budget outturn position for 2022/23 for the
Council Fund and Housing Revenue Account.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) adroddiad ar y sefyllfa monitro cyllideb yn ystod y flwyddyn dros dro 2022/23 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd hwn yn adroddiad eithrio ar amrywiadau sylweddol posibl a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2022/23 a chynnydd o ran cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn erbyn y targedau a osodwyd am y flwyddyn.
Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio ar y cam hwn gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o tua £0.300 miliwn. Fel y nodwyd yn yr eitem flaenorol, roedd y £2.066 miliwn oedd yn weddill o’r gronfa wedi’i glustnodi i argyfwng Covid-19, yn ogystal â’r £3.250 miliwn a ddarparwyd ar gyfer y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer 2022/23, wedi codi’r cyfanswm i £5.316 miliwn. Roedd yr hawliadau mewn perthynas â Covid ar draws y portffolios yn cael eu hadolygu er mwyn penderfynu cymhwysedd ar gyfer y cronfeydd wrth gefn hynny, o ystyried fod Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) wedi dod i ben. Roedd gwaith yn parhau i adolygu’r cynnydd ar risgiau sy’n codi ac arbedion effeithlonrwydd heb eu cyflawni a all effeithio ar gyllideb 2023/24. Roedd y trosolwg o’r sefyllfa yn ystod y flwyddyn yn cynnwys nifer o bwysau o ran cost mewn Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Stryd a Chludiant gyda’r cynnydd mewn prisiau tanwydd yn codi fel pwysau corfforaethol. Mae nifer o risgiau agored wedi cael eu canfod ar y cam hwn a byddent yn destun monitro parhaus.
Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am y posibilrwydd i LlC ymestyn trefniadau cyllido Covid ac os fyddai’r £3.250 miliwn ychwanegol i gronfeydd wrth gefn brys y Cyngor yn dal i fod yn angenrheidiol. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol, oni bai am y cyllid ychwanegol ar y cynllun ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol Covid-19, nid oedd unrhyw fynegiad gan LlC y byddai cyllid blaenorol mewn cysylltiad â Covid yn parhau, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i gasglu ac adolygu hawliadau mewnol. Pan ofynnwyd am gronfeydd wrth gefn brys y Cyngor, roedd ansicrwydd ar y cam hwn o ran pa lefel a fyddai’n ofynnol.
Mewn ymateb i gwestiwn ar drefniadau ariannol ar gyfer Parc Adfer, darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) drosolwg cryno o’r model mewn cysylltiad â’r contract a gofynnodd i geisiadau am fanylion penodol gael eu gwneud ar wahân. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Ibbotson ofyn y cwestiwn drwy’r Hwylusydd gyda’r ymateb i’w rannu gyda’r Pwyllgor llawn.
Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, talodd y Cynghorydd Paul Johnson deyrnged i broses fonitro cyllideb gadarn a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
Cafodd ei sylwadau ei gefnogi gan y Cadeirydd a geisiodd eglurhad ar yr amrywiant o £0.275 miliwn ar y Gwasanaethau Rheoli ac Adnoddau. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol i rannu ymateb mwy manwl.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Bill Crease.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw (dros dro) 2022/23, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi gyda’r Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2022
Dyddiad y penderfyniad: 07/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/07/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: