Manylion y penderfyniad
Annual Governance Statement 2021/22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To endorse the Annual Governance Statement for 2021/22.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021/22 oedd yn rhoi sicrwydd am drefniadau llywodraethu a rheoli risg, i gyd-fynd â’r Datganiad Cyfrifon. Gan egluro pwrpas a datblygiad y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, dywedodd y Prif Swyddog ei bod hi’n ddogfen gadarnhaol oedd yn adlewyrchu ar y cyfnod pontio o’r ymateb i adferiad y pandemig. Yn rhan o’r adolygiad canol blwyddyn a pharatoadau ar gyfer Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23, fe fyddai yna gyfleoedd am ragor o gyfraniad gan Aelodau’r Pwyllgor.
Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg eglurhad o brif newidiadau a phrif adrannau yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a oedd yn dilyn fformat wedi’i ragnodi.
Gan ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, byddai gwybodaeth am adolygiad diweddar y Strategaeth Gwrth-dwyll Corfforaethol yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.
Gofynnodd Allan Rainford am effaith canllaw diweddar gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth am lywodraethu a chafodd wybod tra bod hyn wedi cael ei gyhoeddi ar ôl cwblhau’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, byddai’n helpu i lywio’r adolygiad canol blwyddyn. Cadarnhawyd hefyd y byddai materion llywodraethu sydd wedi’u nodi yn ystod 2021/22 yn ffurfio rhan o’r cynllun gweithredu rheoli risg.
Cynigiwyd yr argymhellion gan Allan Rainford a'u heilio gan y Cynghorydd Glyn Banks.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 yn cael ei atodi i’r Datganiad Cyfrifon ac argymell i’r Cyngor ei fod yn eu mabwysiadu; a
(b) Ceisio barn Cadeiryddion pob Pwyllgor ar gyfer Datganiad Llywodraethu Blynyddol nesaf.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 30/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 08/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/06/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: