Manylion y penderfyniad
Welsh Language Annual Monitoring Report 2021/22
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To receive the Welsh Language Annual
Monitoring Report 2021/22 and provide an overview of progress in
complying with the Welsh Language Standards.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod angen i Gyngor Sir y Fflint lynu at Safonau’r Gymraeg, fel y nodir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2015.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi safonau ar gyfer y Gymraeg. Nod y Safonau yw:
· Gwella'r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan sefydliadau yn y Gymraeg;
· Cynyddu'r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;
· Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran yr iaith Gymraeg; a
· Sicrhau bod lefel priodol o gysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.
Crybwyllodd y buddsoddiad o dros £1miliwn i Ysgol Croes Atti yng Nglannau Dyfrdwy, i wella’r ddarpariaeth o addysg Cymraeg yn ardal Shotton a’r ysgol cyfrwng Cymraeg arfaethedig newydd a fyddai’n disodli Ysgol Croes Atti presennol yn y Fflint. Hon fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf i gael ei hadeiladu gan y Cyngor, ers iddo gael ei sefydlu ym 1996. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gwneud cyllid ar gael i hwyluso twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg ac roedd y Cyngor wedi mynegi diddordeb mewn ymgeisio am gyllid ar gyfer ardal Bwcle/Mynydd Isa.
Gwnaeth y Swyddog Datblygu Polisi sylwadau ar lwyddiant y fenter Cymraeg Bob Cynllun a Dydd Mercher Cymraeg. Eglurodd fod gweithwyr yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg drwy hyfforddiant a ddarperir gan y coleg lleol. Roedd adnoddau i gefnogi dysgwyr Cymraeg a siaradwyr Cymraeg ar gael ar y fewnrwyd ar dudalen ddynodedig ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Yn 2021/22 derbyniwyd un gwyn yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg, o’i gymharu â thair cwyn yn y blynyddoedd blaenorol. Roedd manylion y g?yn wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.
Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bwysigrwydd y gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid ar y wybodaeth yr oeddent yn ei ddarparu ar y cyfleoedd ar gael i bobl ifanc os oeddent yn ddwyieithog.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Swyddog Datblygu Polisi a’i thîm am eu gwaith i hyrwyddo’r Gymraeg a’u gwaith ar yr adroddiad blynyddol. Anogodd yr aelodau a swyddogion i ddefnyddio’r Gymraeg lle bynnag bosibl.
Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylwadau ar weithrediad Ysgol Glanrafon yn yr Wyddgrug o ran gwaith ailfodelu ac estyniad, a fyddai’n cynnwys datblygu darpariaeth cyn ysgol pwrpasol ar y safle. Bydd estyniad ar y safle yn galluogi i gapasiti’r ysgol gynyddu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, dywedodd y Swyddog Datblygu Polisi y byddai rhestr o frawddegau a ddefnyddir yn aml mewn cyfarfodydd yn gallu cael ei llunio a’i anfon i Aelodau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2021/22, gan nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant; a
(b) Bod adroddiad arall yn cael ei dderbyn ym Medi 2022 yn amlinellu’r cynnydd a wneir.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 23/06/2022
Dogfennau Atodol: