Manylion y penderfyniad
Welsh Government Guidance on the duty of Group Leaders to promote Ethical Behaviour
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd newydd ar Arweinwyr Grwpiau i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau eu grwpiau. Pennwyd dyletswydd newydd hefyd yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf.
Mae’n rhaid i Arweinwyr Grwpiau a’r Pwyllgor ystyried y canllawiau statudol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Roedd y Pwyllgor eisoes wedi ystyried y canllawiau hynny ar ffurf drafft cynnar. Cyhoeddwyd drafft arall o’r canllawiau er ymgynghoriad yn gynharach yn y flwyddyn; roeddent yn bur debyg i’r canllawiau blaenorol wrth gynnig ffyrdd y gallai Arweinwyr Grwpiau hyrwyddo ymddygiad da, ac awgrymu y byddent yn dwyn anfri ar eu swyddi pe byddent yn methu â gwneud hynny. Un gwahaniaeth gwerth ei nodi oedd y swyddogaeth adrodd, a oedd yn llai manwl bellach.
Dechreuodd yr ymgynghoriad ym mis Chwefror a daeth i ben ym mis Mai oddeutu’r un pryd â’r cyfnod cyn etholiadau. Hwn felly oedd y tro cyntaf y gellid cyflwyno’r canllawiau drafft i’r Pwyllgor.
Atodwyd copi o’r adroddiad templed i’r adroddiad ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ffurf drafft. Cynhelid trafodaeth am y canllawiau statudol ag Arweinwyr y Grwpiau ar 27 Mehefin 2022.
Penderfynwyd cyflwyno’r ymatebion drafft i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru gan egluro pam roedd yr ymateb yn hwyr.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r canllawiau arfaethedig, a
(b) Chyflwyno’r ymatebion drafft i’r ymgynghoriad i Lywodraeth Cymru gan egluro pam roedd yr ymateb yn hwyr.
Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Laura Turley)
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2022 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: