Manylion y penderfyniad

Examination of the Flintshire Local Development Plan – Position Update and Matters Arising Changes Consultation

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide an update on the position reached with the Examination of the Flintshire Local Development Plan (LDP) and the Inspector’s requirement for the Matters Arising Changes (MACs) to be published for public consultation.

Penderfyniadau:

Cyn cyflwyno’r adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i’r Cynghorydd Bithell, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), y Rheolwr Gwasanaeth – Strategaeth a’u timau, am eu gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol a fyddai’n darparu sicrwydd i’r Cyngor yn y blynyddoedd i ddod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad gan egluro, ar ôl cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i’w archwilio’n gyhoeddus gan y Cyngor ym mis Hydref 2020, cynhaliwyd sesiynau gwrandawiadau ffurfiol yr Archwiliad rhwng 13 Ebrill a 20 Mai 2021.

 

Ar ôl y sesiwn archwilio, roedd dau fater angen eu datrys:

 

·         Pryderon yr arolygydd o ran cynaliadwyedd agweddau ar Safle Datblygu Defnydd Cymysg Strategol Warren Hall; a

·         Thargedau newydd a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym mis Ionawr 2021 i reoli lefelau ffosffad yn afonydd dynodedig Afon Dyfrdwy ac Ardal Cadwraeth Arbennig Llyn Tegid.

 

Yn dilyn sesiwn gwrandawiad pellach ar gais yr Arolygydd, er mwyn rhoi ystyriaeth i’w phryderon o ran Warren Hall a lle rhoddodd y Cyngor a phartïon â diddordeb dystiolaeth bellach, dywedodd yr Arolygydd fod angen gwneud newid i’r CDLl, i ddileu elfen tai y datblygiad defnydd cymysg ar sail cynaliadwyedd.  Yn hanfodol, nid oedd y newid hwnnw’n effeithio ar pa mor gadarn oedd y CDLl nac yn arwain at angen darparu safleoedd amgen yn rhywle arall, o ystyried lefel yr hyblygrwydd o ran tai sydd wedi’i chynnwys yn y cynllun.

 

Roedd mater ffosffadau o natur fwy technegol neu weithdrefnol yng nghyd-destun cynnal pa mor gadarn oedd y CDLl, a oedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Cyngor ddangos bod y cynllun yn dal i gydymffurfio â’r Rheoliadau Cynefinoedd ac na fyddai’r datblygiad ynddo yn cael effaith andwyol ar afonydd a warchodir mewn ACA.  Roedd y Cyngor wedi gwneud hyn trwy gryfhau polisïau allweddol a oedd yn diogelu amgylchedd y d?r ac adnoddau, yn ogystal â chynhyrchu strategaeth liniaru ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a oedd ar gam tebyg o ran Archwilio eu CDLl.  Roedd Strategaeth Lleihau Ffosfforws yn Nalgylch Afon Dyfrdwy yn cynnig bod lefelau lliniaru yn cael eu hystyried a’u gweithredu ar ôl mabwysiadu’r cynllun. Roedd rhai o’r rhain yn gyfrifoldeb i’r Cyngor ond roedd rhai eraill yn gyfrifoldeb i fudd-ddeiliaid allweddol eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), D?r Cymru, y Sector Amaeth a datblygwyr i fwrw ymlaen â nhw.

 

Roedd y Strategaeth yn cynnig cydweithio i gyflawni gostyngiadau o ran lefelau ffosffad, a byddai Bwrdd Rheoli Maethynnau yn cael ei sefydlu.  Roedd Cyngor Wrecsam yn arwain o ran sefydlu’r Bwrdd, a byddai Sir y Fflint yn cynorthwyo a chyfranogi.  Er mwyn dangos bod y Strategaeth yn cael ei gweithredu, roedd rhagor o waith eisoes wedi’i gomisiynu i asesu dichonoldeb datblygu gwlyptiroedd ger y gwaith trin d?r gwastraff.  Atodwyd y Strategaeth i’r adroddiad.

 

Ar ôl datrys pob mater oedd yn weddill, roedd y Cyngor wedi paratoi rhestr o newidiadau i’r Cynllun, a oedd wedi deillio o’r Archwiliad, ac roedd yr Arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn cynnal pa mor gadarn oedd y CDLl.  Newidiadau’r Materion sy’n Codi (NMC) oedd y rhain, ac fel cam terfynol yn y broses Archwilio, roedd angen eu cyhoeddi ar gyfer cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.  Byddai unrhyw ymatebion i’r NMC yn helpu i lywio adroddiad yr Arolygydd.  Ar wahân i’r unig newid yr oedd yr Arolygydd wedi’i gyfarwyddo a oedd yn ymwneud â Warren Hall, roedd pob newid arall o arwyddocâd cymharol gymedrol, a oedd yn dangos i ba raddau roedd y cynllun a gyflwynwyd gan y Cyngor i’w Archwilio, eisoes yn gadarn.  Roedd pob newid roedd yr Arolygydd wedi gofyn amdanynt wedi’u cytuno mewn egwyddor dan y Cynllun Dirprwyo cymeradwy a roddwyd ar waith ar gyfer proses archwilio’r CDLl, ac roedd yr Arolygydd yn gofyn bod y NMC yn cael eu cyhoeddi am gyfnod o chwe wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus, er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd a budd-ddeiliaid roi sylwadau.

 

Roedd hyn yn rhagarweiniad hanfodol i’r Cyngor yn cael adroddiad yr Arolygydd am Archwilio’r CDLl oherwydd roedd angen i’r Arolygydd roi ystyriaeth i unrhyw sylwadau am y NMC wrth gwblhau ei hadroddiad. Felly byddai pob Aelod yn cael cyfle i roi ystyriaeth i Adroddiad yr Arolygydd a’i ganfyddiadau pan fyddai’r CDLl yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor i’w fabwysiadu.

 

Roedd rhestr o NMC wedi’i pharatoi a chafodd ei thrafod mewn sesiwn gwrandawiad rhwng y Cyngor a’r Arolygydd a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021. Roeddent wedi’u hatodi i’r adroddiad a’u cytuno gan yr Arolygydd.  Roedd y sefyllfa gyda’r CDLl, y rhestr o NMC, a gofyniad yr Arolygydd iddynt gael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan gyfarfodydd y Gr?p Strategaeth Gynllunio a gynhaliwyd ddydd Gwener 12 Tachwedd 2021, dydd Iau 27 Ionawr 2022 a dydd Iau 17 Mawrth 2022, yn unol â’r Cynllun Dirprwyo cymeradwy.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Strategaeth nad oedd yn bosibl adrodd am hyn wrth y Cabinet, cyn cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus chwe wythnos cyn dechrau’r Cyfnod Cyn yr Etholiad, oherwydd na ddywedodd yr Arolygydd wrth y Cyngor ei bod am i’r NMC gael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghoriad tan ddiwedd mis Ionawr 2022. Felly, roedd gofyniad yr Arolygydd i ymgynghori yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar y cyfle cyntaf posibl ar ôl yr Etholiadau. Caiff sesiwn friffio i’r Aelodau i gyd ei threfnu hefyd i ddarparu ymwybyddiaeth o’r sefyllfa a’r camau nesaf.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Healey, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Strategaeth y byddai creu’r Bwrdd Rheoli Maethynnau yn sicrhau bod pob budd-ddeiliad yn dod at ei gilydd i gymryd cyfrifoldeb cyfun dros sut roedd maethynnau’n cyrraedd yr afonydd, a sut i ddileu ffynonellau llygredd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai sesiwn friffio am y sefyllfa a gyrhaeddwyd gydag Archwiliad y CDLl a’r camau terfynol tuag at ei fabwysiadu yn cael ei darparu i bob Aelod o’r Cyngor newydd fel rhan o’r rhaglen sefydlu a chyn i’r ymgynghoriad ddechrau.  Soniodd y Cynghorydd Roberts am bwysigrwydd y ffaith fod Aelodau newydd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau am y CDLl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cydnabod y sefyllfa a gyrhaeddwyd gan Archwiliad Cyhoeddus y CDLl, a gofyniad yr Arolygydd bod Newidiadau’r Materion sy’n Codi fel a nodir yn y Rhestr, yn cael eu cyhoeddi at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o chwe wythnos;

 

(b)       Bod yr ymgynghoriad yn dechrau cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ar ôl ystyriaeth y Cabinet, a bod swyddogion yn casglu’r holl sylwadau a gafwyd a’u cyflwyno i’r Arolygydd ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori; a

 

(c)        Bod egwyddorion lliniaru ffosffad sy’n ymwneud â’r Cyngor a’r CDLl, fel a nodwyd yn Strategaeth Lleihau Ffosfforws yn Nalgylch Afon Dyfrdwy, yn cael eu nodi.

Awdur yr adroddiad: Andy Roberts

Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 31/05/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 31/05/2022 - Cabinet

Yn effeithiol o: 11/06/2022

Accompanying Documents: