Manylion y penderfyniad

Annual Performance Report 2020/21

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To adopt the Annual Performance Report 2020/21

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020-21. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd cyn y Cyngor Sir ac roedd wedi’i argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo. Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y meysydd a amlygwyd i’w gwella, a dywedodd fod perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol ar y cyfan.   

 

Fe soniodd y Cynghorydd Ian Roberts am her y pandemig byd eang a dywedodd ei fod yn falch o berfformiad eithriadol gweithwyr y Cyngor mewn amgylchiadau mor anodd a mor ddigyffelyb. Gofynnodd i Brif Swyddogion anfon ei ddiolchiadau diffuant ymlaen i’w timau ar ran y Cyngor Sir am eu gwaith.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Roberts yn ffurfiol bod gwerthfawrogiad pob Aelod o’r Cyngor o waith rhagorol Swyddogion a gweithwyr ym mhob gwasanaeth yn cael eu cynnwys fel argymhelliad ychwanegol yn yr adroddiad. Eiliodd y Cynghorydd Billy Mullin y cynnig.

 

Gan gefnogi’r sylwadau gan y Cynghorydd Roberts, rhoddodd y Cynghorydd Mike Peers deyrnged i waith Ysgolion a’r gefnogaeth a ddarparwyd i blant gweithwyr allweddol trwy gydol y pandemig. Gan gyfeirio at dudalen 62 yr agenda a chynllunio hir dymor ar gyfer adfer canol trefi, dywedodd fod ffioedd mewn meysydd parcio wedi cael eu hailgyflwyno ond gofynnodd fod canol trefi yn parhau i gael eu monitro a bod addasiadau’n cael eu gwneud fel y bo angen i annog nifer yr ymwelwyr yn y dyfodol.  Tynnodd y Cynghorydd Peers sylw at y wybodaeth am werth cymdeithasol ar dudalen 63 yr agenda a llwyddiant cyfleuster Cartref Gofal Marleyfield. Dywedodd y dylid canmol hyn. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Dunbar i gefnogi gwaith y gwasanaethau a ddarparwyd gan dîm Tai ac Asedau i gefnogi preswylwyr Sir y Fflint. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Andy Hughes deyrnged i holl weithwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith rhagorol trwy gydol y pandemig. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Aelodau am eu cefnogaeth. Dywedodd y rhagorwyd ar dargedau a osodwyd ar gyfer perfformiad gwerth cymdeithasol ar gyfer y 12-18 mis cyntaf, ac roedd y Cyngor yn cael ei ystyried yn awdurdod enghreifftiol gan Lywodraeth Cymru, ac yn sgil hynny, gofynnwyd iddo fentora awdurdodau eraill.    

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21; a

 

(b)          Bod gwerthfawrogiad pob Aelod o’r Cyngor am y gwaith rhagorol a wnaed yn ystod pandemig Covid-19 yn cael ei basio ymlaen i Swyddogion a’u timau ym mhob Gwasanaeth. 

 

 

Awdur yr adroddiad: Jay Davies

Dyddiad cyhoeddi: 11/05/2022

Dyddiad y penderfyniad: 19/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: